Plas Mawr, Conwy

Cymru Ryfedd a Chyfareddol

plas-mawr-conwy

Plasty yng nghanol y dref o gyfnod Elisabeth yw Plas Mawr, a hwnnw wedi’i godi rhwng 1576 a 1585. Daliodd pysgotwyr fôr-forwyn yn aber afon Conwy a’i dangos i’r byd ar betws yn y dref. Wrth iddi ddechrau mygu, bwriodd felltith ar bobl ac adeiladau Conwy – yn yr union fan lle llosgodd Neuadd y Dref a llyfrgell yn ddiweddarach. Ar y naill achlysur a'r llall, roedd chwerthiniad y fôr-forwyn i'w glywed yng nghanol y fflamau, ac fe'i gelwir yn Felltith y Fôr-Forwyn. Ymhellach i lawr Dyffryn Conwy mae Llansanffraid, lle rhoddwyd Gwen Ferch Ellis (1542-1591) ar brawf am fod yn wrach. Fe’i cyhuddwyd o fwrw melltith ar gartref Thomas Mostyn, ac fe’i crogwyd maes o law yn sgwâr y dref yn Ninbych. Mae straeon eraill o’r sir yn cynnwys hanes Llyn yr Afanc, sef llecyn ar Afon Conwy lle’r oedd sarff ddieflig yn byw. Yn ôl ar yr arfordir, o dan y dŵr, y mae tiroedd Tyno Helig, rhwng y Gogarth a Bangor. Cafodd y tiroedd hyn eu boddi gan ysbryd pennaeth un o lwythi’r Alban a lofruddiwyd gan Tathal, y barwn di-nod, a oedd â’i lygaid ar goler aur hardd y pennaeth. Roedd Gwendud, merch ffroenuchel y Tywysog Helig, wedi gwrthod priodi Tathal tan y byddai ganddo well statws.

Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
Darn ysgrifenedig - hawlfraint Eluned Gramich / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

Plas Mawr, Conwy

  • Plasty yng nghanol y dref o gyfnod Elisabeth yw Plas Mawr, a hwnnw wedi’i godi rhwng 1576 a 1585. Daliodd pysgotwyr fôr-forwyn yn aber afon Conwy a’i dangos i’r byd ar betws yn y dref. Wrth iddi ddechrau mygu, bwriodd felltith ar bobl ac adeiladau Conwy – yn yr union fan lle llosgodd Neuadd y Dref a llyfrgell yn ddiweddarach. Ar y naill achlysur a'r llall, roedd chwerthiniad y fôr-forwyn i'w glywed yng nghanol y fflamau, ac fe'i gelwir yn Felltith y Fôr-Forwyn. Ymhellach i lawr Dyffryn Conwy mae Llansanffraid, lle rhoddwyd Gwen Ferch Ellis (1542-1591) ar brawf am fod yn wrach. Fe’i cyhuddwyd o fwrw melltith ar gartref Thomas Mostyn, ac fe’i crogwyd maes o law yn sgwâr y dref yn Ninbych. Mae straeon eraill o’r sir yn cynnwys hanes Llyn yr Afanc, sef llecyn ar Afon Conwy lle’r oedd sarff ddieflig yn byw. Yn ôl ar yr arfordir, o dan y dŵr, y mae tiroedd Tyno Helig, rhwng y Gogarth a Bangor. Cafodd y tiroedd hyn eu boddi gan ysbryd pennaeth un o lwythi’r Alban a lofruddiwyd gan Tathal, y barwn di-nod, a oedd â’i lygaid ar goler aur hardd y pennaeth. Roedd Gwendud, merch ffroenuchel y Tywysog Helig, wedi gwrthod priodi Tathal tan y byddai ganddo well statws.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Eluned Gramich / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

    More Cymru Ryfedd a Chyfareddol locations