Foel Las, Penmaenmawr

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
foel-las-penmaenmawr

Yn y chweched ganrif, dywedir bod teyrnas o’r enw Tyno Helig yn sefyll yn yr iseldir i’r gorllewin o’r Gogarth. Fe’i rheolid o’i lys gan y Tywysog Helig ap Glannawg. Mae un chwedl yn sôn am Gwendud, merch hynod brydferth Helig, ond un greulon ar yr un pryd. Gwrthododd Gwendud briodi ei dyweddi, Tahal, mab i uchelwr o Eryri, oni fedrai ddod o hyd i goler aur i brofi’i statws. Lladdodd Tahal uchelwr o’r Alban er mwyn dwyn ei goler, a phriododd y ddau. Y noson honno, ymddangosodd ysbryd yr Albanwr marw, a melltithio’r teulu. Mewn dim o dro, boddwyd Tyno Helig gan y môr. Hyd heddiw, Llys Helig yw’r enw ar ddarn o dir creigiog oddi ar yr arfordir ym Mhenmaenmawr. Dringwch Foel Las o Fwlch Sychnant i weld golygfeydd godidog ar draws Bae Conwy tuag at hen deyrnas Tyno Helig dan y lli.

Foel Las, Penmaenmawr

  • Yn y chweched ganrif, dywedir bod teyrnas o’r enw Tyno Helig yn sefyll yn yr iseldir i’r gorllewin o’r Gogarth. Fe’i rheolid o’i lys gan y Tywysog Helig ap Glannawg. Mae un chwedl yn sôn am Gwendud, merch hynod brydferth Helig, ond un greulon ar yr un pryd. Gwrthododd Gwendud briodi ei dyweddi, Tahal, mab i uchelwr o Eryri, oni fedrai ddod o hyd i goler aur i brofi’i statws. Lladdodd Tahal uchelwr o’r Alban er mwyn dwyn ei goler, a phriododd y ddau. Y noson honno, ymddangosodd ysbryd yr Albanwr marw, a melltithio’r teulu. Mewn dim o dro, boddwyd Tyno Helig gan y môr. Hyd heddiw, Llys Helig yw’r enw ar ddarn o dir creigiog oddi ar yr arfordir ym Mhenmaenmawr. Dringwch Foel Las o Fwlch Sychnant i weld golygfeydd godidog ar draws Bae Conwy tuag at hen deyrnas Tyno Helig dan y lli.

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations