Cefndir Gwlad y Chwedlau

Cefndir Gwlad y Chwedlau

I’r rheini sy’n chwilio am ysbrydoliaeth i ymweld â llefydd llenyddol a diwylliannol yng Nghymru, bydd y map stori newydd hwn yn fodd o ddod o hyd i ambell lecyn cudd yn ogystal â mannau mwy cyfarwydd. Maent i gyd yn llefydd sydd wedi’u hysbrydoli gan ein hanesion, a’r rheini’n amrywio o straeon arswyd mewn hen gestyll i straeon caru trist; o chwedlau am angenfilod rhyfedd i hynt a helynt herwyr arwrol.   


Map yw hwn sydd wedi’i seilio ar ddeg thema: dŵr, brwydrau, yr iaith, llên gwerin, llefydd cysegredig, y Brenin Arthur, plentyndod, ysbrydion, diwydiant a rebeliaid. Ceir ym mhob categori ddwsinau o lefydd sy’n gysylltiedig â straeon rhyfeddol a chymeriadau hynod, barddoniaeth, llên gwerin a mythau. Ceir syniadau hefyd am lefydd i fwyta ac yfed, am lwybrau i’w crwydro ac am fannau i aros ynddynt dros nos.  

Gall ymwelwyr ddewis y llefydd sy’n eu diddori fwyaf ar y map neu o blith y themâu, a byddant wedyn yn cael cynllun taith drwy e-bost – gan allu trefnu eu hantur lenyddol eu hunain.

Llenyddiaeth Cymru sydd wedi datblygu Gwlad y Chwedlau, gyda chyllid gan Croeso Cymru. Y nod yw dangos y gorau o lenyddiaeth, diwylliant a mythau Cymru, a hynny yn yr union fannau a ysgogodd ac a ysbrydolodd y rheini. Bydd Gwlad y Chwedlau yn eich tywys ar daith i’n calon fel pobl, gan eich cyflwyno i’r straeon a’r cymeriadau sydd wedi ein creu.    

Mae’r cynllun hwn yn rhan o waith Llenyddiaeth Cymru ym maes twristiaeth llenyddol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org

Roedd Gwlad y Chwedlau yn bosibl drwy ymgynghori â’r sectorau diwylliannol, amgylcheddol a thwristiaeth ehangach yng Nghymru. Hoffem ddiolch yn benodol i’r canlynol am eu cyfraniadau a’u cymorth:   

  • Dr Dimitra Fimi
  • Dr Kirsti Bohata
  • Myrddin ap Dafydd
  • Dr Eurig Salisbury
  • Gwyneth Glyn
  • Dr Juliette Wood
  • Twm Morys
  • Robin Llywelyn
  • Angharad Wynne
  • Yr Athro Sioned Davies
  • Yr Athro Damian Walford Davies
  • Dr Mererid Hopwood
  • Tom Anderson
  • Jon Gower
  • Gillian Clarke
  • Dr Ffion Reynolds, Cadw
  • Naomi Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 
  • Janice Lane a Catrin Taylor, Amgueddfa Genedlaethol Cymru 
  • Graham Peake, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 
  • Richard Tyler, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 
  • Kenneth Smith a Liz Girling, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 
  • Nicola Edwards, Cyngor Sir Fynwy 
  • Lynne Richards a b, Cyngor Dinas Casnewydd 
  • Alyson Tippings, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 
  • Kate Blewitt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 
  • Alice Brown, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Lauren Summers, Visit Britain 
  • Val Hawkins, Twristiaeth Canolbarth Cymru
  • Vicky Jones, Twristiaeth De Cymru 
  • Andrew Wallace, Twristiaeth Gogledd Cymru

Gyda chydnabyddiaeth arbennig i:

  • Sarah Vining
  • Rhys Iorwerth
  • Siôn Dafydd a Alwyn Thomas, Kutchibok Ltd
  • Richard Arnold, Ambercouch
  • Pete Fowler

Darllen pellach am y cynnwys a geir yn Gwlad y Chwedlau

  • Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gan John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur I. Lynch (goln.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
  • The Literary Pilgrim in Wales: A Guide to Places Associated with Writers in Wales gan Meic Stephens (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
  • The Welsh Fairy Book gan W. Jenkyn Thomas (Abela Publishing, 2010)
  • South Wales Ghost Stories: Shiver Your Way from Newport to Pembrokeshire gan Richard Holland (Bradwell Books, 2013)
  • North Wales Ghost Stories: Shiver Your Way from Wrexham to the Llyn Peninsular gan Richard Holland (Bradwell Books, 2013)
  • Welsh Folk Tales gan Peter Stevenson (The History Press, 2017)
  • A Dylan Odyssey gan awduron amrywiol (Graffeg, 2015)
  • Holy Places of Celtic Britain gan Mick Sharp (Cassell Illustrated, 1997) 
  • Cymru 100 o Lefydd i’w Gweld Cyn Marw gan John Davies a Marian Delyth (Y Lolfa, 2010)
  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru gan Meic Stephens (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)
  • Wales at Water’s Edge Jon Gower a Jeremy Moore (Gomer, 2012)
  • Cyfres The Library of Wales (Parthian)
  • Hanes Cymru gan John Davies (Penguin, 1990)

Ceir rhagor o gynnwys ar gael fan hyn:


© Hawlfraint y cynnwys, Llenyddiaeth Cymru
© Hawlfraint y dylunio, Kutchibok
© Hawlfraint y graffeg, Pete Fowler
© Hawlfraint y ffotograffau, Hawlfraint y Goron (Croeso Cymru) oni nodir fel arall
© Hawlfraint ffotograff y brand, Sarah Vining

Llenyddiaeth Cymru sy’n berchen ar hawlfraint holl gynnwys Gwlad y Chwedlau, oni bai y nodir hynny fel arall. Canllaw yw’r wefan hon yn unig. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, niwed neu anaf a all ddigwydd wrth ymweld â’r llefydd y cyfeirir atynt ar y wefan hon. Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau bod hawl ganddynt i fynd i’r llefydd a restrir yma ac i gydymffurfio ag unrhyw godau ymddygiad a chyfreithiau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynghori pob ymwelydd sy’n mynd i’r safleoedd dan sylw i wisgo dillad ac esgidiau addas ac i fwrw golwg ar ragolygon y tywydd cyn mynd.