Gwen ferch Ellis (1542-1591) oedd y gyntaf yng Nghymru i’w dedfrydu a’i dienyddio am fod yn wrach. Roedd hi’n iachawraig, yn feddyg llysieuol, ac yn wraig hysbys a gyhuddwyd o felltithio cartref Thomas Mostyn o Gloddaeth. Gŵr oedd hwn a oedd yng nghanol ffrwgwd â Jane Conwy o Marl Hall ar y pryd. Mae’n debyg i Ellis gael ei chyhuddo ar gam, neu fod cynllwyn yn ei herbyn, gan ei bod yn gwybod am hen garwriaeth rhwng Conwy a Mostyn. Yn ôl y chwedl leol, torrodd gwŷr meddw o’r pentref i mewn i’w chartref a dychryn am eu bywydau wrth weld cleren las fawr, gan gredu mai cythraul Ellis oedd y pryfyn hwn. Daethpwyd â chyhuddiadau newydd yn ei herbyn o achosi marwolaeth a gwallgofrwydd, ac aeth o flaen ei gwell am fod yn wrach yn Eglwys Llansanffraid. Trosglwyddwyd yr achos i Lys Dinbych, ac fe’i crogwyd ar sgwâr y dref. Dyma bellach leoliad Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Dinbych, lle mae casgliadau o’r cyfnod i’w gweld.