Y Tŵr Dŵr, Gorsaf Drenau Ganolog Caerdydd

Cymru Ryfedd a Chyfareddol

water-tower-cardiff-central-railway-station

Mae’r murlun hynod hwn gan Pete Fowler wedi'i ysbrydoli gan rai o straeon rhyfedd a gwych Cymru, ac wedi’i osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932. Mae’r murlun yn cynnwys darluniau sydd wedi’u seilio ar y Mabinogi: dyna ichi Bendigeidfran – Brenin Prydain – a frwydrodd yn erbyn y Gwyddelod. Er torri'i ben, bu'i wŷr yn sgwrsio â hwnnw am wyth deg saith mlynedd. Dyna ichi Blodeuwedd, y ferch a gonsuriwyd o flodau gan ddau ddewin yn wraig i Lleu, ond a drowyd drachefn yn dylluan yn gosb am gynllwynio i ladd ei gŵr. A dyna ichi’r dduwies Rhiannon, sy’n marchogaeth yn well ac yn gryfach na marchogion gorau Pwyll, Pendefig Dyfed. Mae yma’r carw sy’n cael ei ladd gan helgwn claerwyn, dychrynllyd Arawn – Brenin Annwn (yr Arallfyd). Ac mae yma’r frân, sy’n ymddangos drwy gydol y ceinciau fel arwydd o farwolaeth.

Fideo gan Mark James.


Printiadau Giclée

Mae argraffiad cyfyngedig (200) o Furlun Tŵr Dŵr Caerdydd, wedi eu harwyddo gan Pete Fowler, wedi’w comisiynu. Maent ar gael heb eu fframio neu neu gyda ffrâm, mewn maint 1200 mm x 400 mm. Bydd unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal gweithdai creadigol mewn cymunedau ymylol.

Lluniau: Heb ei fframio 1Heb ei fframio 2Heb ei fframio 3

Heb ei fframio - £100 + £8 cludiant      Gostyngiad o 10% dros y ‘Dolig - £90 + £8 p&p – gorffen 12 Tachwedd 2019
Mewn ffrâm - £150 + £15 cludiant        Gostyngiad o 10% dros y ‘Dolig - £135 + £8 p&p – gorffen 12 Tachwedd 2019

Mae modd archebu isod. Byddwn yn postio unrhyw archebion o fewn 1 wythnos o dderbyn eich archeb. Nodwch gyfeiriad cludo wrth archebu os gwelwch yn dda. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at post@llenyddiaethcymru.org gyda ‘Murlun Tŵr Dŵr Caerdydd’ fel pwnc.

*mae'r cyfraddau postio a phacio a nodir uchod ar gyfer cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris CYN prynu print. 

Opsiynau
Neges gyda'r anrheg (opsiynol)
Cyfeiriad cludo

Y Tŵr Dŵr, Gorsaf Drenau Ganolog Caerdydd

  • Mae’r murlun hynod hwn gan Pete Fowler wedi'i ysbrydoli gan rai o straeon rhyfedd a gwych Cymru, ac wedi’i osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932. Mae’r murlun yn cynnwys darluniau sydd wedi’u seilio ar y Mabinogi: dyna ichi Bendigeidfran – Brenin Prydain – a frwydrodd yn erbyn y Gwyddelod. Er torri'i ben, bu'i wŷr yn sgwrsio â hwnnw am wyth deg saith mlynedd. Dyna ichi Blodeuwedd, y ferch a gonsuriwyd o flodau gan ddau ddewin yn wraig i Lleu, ond a drowyd drachefn yn dylluan yn gosb am gynllwynio i ladd ei gŵr. A dyna ichi’r dduwies Rhiannon, sy’n marchogaeth yn well ac yn gryfach na marchogion gorau Pwyll, Pendefig Dyfed. Mae yma’r carw sy’n cael ei ladd gan helgwn claerwyn, dychrynllyd Arawn – Brenin Annwn (yr Arallfyd). Ac mae yma’r frân, sy’n ymddangos drwy gydol y ceinciau fel arwydd o farwolaeth.

    Fideo gan Mark James.


    Printiadau Giclée

    Mae argraffiad cyfyngedig (200) o Furlun Tŵr Dŵr Caerdydd, wedi eu harwyddo gan Pete Fowler, wedi’w comisiynu. Maent ar gael heb eu fframio neu neu gyda ffrâm, mewn maint 1200 mm x 400 mm. Bydd unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal gweithdai creadigol mewn cymunedau ymylol.

    Lluniau: Heb ei fframio 1Heb ei fframio 2Heb ei fframio 3

    Heb ei fframio - £100 + £8 cludiant      Gostyngiad o 10% dros y ‘Dolig - £90 + £8 p&p – gorffen 12 Tachwedd 2019
    Mewn ffrâm - £150 + £15 cludiant        Gostyngiad o 10% dros y ‘Dolig - £135 + £8 p&p – gorffen 12 Tachwedd 2019

    Mae modd archebu isod. Byddwn yn postio unrhyw archebion o fewn 1 wythnos o dderbyn eich archeb. Nodwch gyfeiriad cludo wrth archebu os gwelwch yn dda. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at post@llenyddiaethcymru.org gyda ‘Murlun Tŵr Dŵr Caerdydd’ fel pwnc.

    *mae'r cyfraddau postio a phacio a nodir uchod ar gyfer cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris CYN prynu print. 

    Opsiynau
    Neges gyda'r anrheg (opsiynol)
    Cyfeiriad cludo
    More Cymru Ryfedd a Chyfareddol locations