Castell Caerffili

Cymru Ryfedd a Chyfareddol

caerphilly-castle

Codwyd Castell Caerffili gan Gilbert de Clare (1243 – 1295) er mwyn rheoli Morgannwg a rhoi diwedd ar ymgais Llewelyn ap Gruffudd (1223-1282) i ehangu ei diriogaeth. Dywedir bod ysbryd Alice o Angouleme (Boneddiges Werdd Caerffili), sef gwraig de Clare, yn crwydro’r castell, a hithau wedi marw o dorcalon ar ôl i de Clare ladd ei chariad, Gruffudd. Mae ei gwisgoedd gwyrdd yn gwatwar cenfigen ei gŵr. Yn ôl y sôn, mae Gwrach y Rhibyn, a’i llygaid duon, ei chrafangau a’i hadenydd od yn prowlan y tir corsiog o gylch y castell, gan udo yn y niwl. Mae chwedlau eraill o’r sir yn cynnwys Cwcwod Rhisga – y llysenw ar bobl y dref honno. Roedden nhw’n credu bod cwcwod yn dod â haul yn eu sgil, a chan ddymuno tywydd braf drwy'r flwyddyn, dyma dyfu cloddiau uchel ond heb lwyddo i ddal yr un gwcw. Mae Melltith Pantannas i'r gogledd o Gaerffili yn adrodd hanes brenin sy’n melltithio Fferm Pantannas ar ôl i’r ffermwr lleol geisio cael gwared ar dylwyth teg o’i dir. Denwyd Madoc, ŵyr y ffermwr, i ogof gan gerddoriaeth iasol rai wythnosau cyn ei briodas. Wrth gamu o'r ogof, dysgodd iddo fod i ffwrdd am 100 mlynedd a chafodd ei droi'n llwch gan y sioc.

Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
Darn ysgrifenedig - hawlfraint Patrick Jones / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

Castell Caerffili

  • Codwyd Castell Caerffili gan Gilbert de Clare (1243 – 1295) er mwyn rheoli Morgannwg a rhoi diwedd ar ymgais Llewelyn ap Gruffudd (1223-1282) i ehangu ei diriogaeth. Dywedir bod ysbryd Alice o Angouleme (Boneddiges Werdd Caerffili), sef gwraig de Clare, yn crwydro’r castell, a hithau wedi marw o dorcalon ar ôl i de Clare ladd ei chariad, Gruffudd. Mae ei gwisgoedd gwyrdd yn gwatwar cenfigen ei gŵr. Yn ôl y sôn, mae Gwrach y Rhibyn, a’i llygaid duon, ei chrafangau a’i hadenydd od yn prowlan y tir corsiog o gylch y castell, gan udo yn y niwl. Mae chwedlau eraill o’r sir yn cynnwys Cwcwod Rhisga – y llysenw ar bobl y dref honno. Roedden nhw’n credu bod cwcwod yn dod â haul yn eu sgil, a chan ddymuno tywydd braf drwy'r flwyddyn, dyma dyfu cloddiau uchel ond heb lwyddo i ddal yr un gwcw. Mae Melltith Pantannas i'r gogledd o Gaerffili yn adrodd hanes brenin sy’n melltithio Fferm Pantannas ar ôl i’r ffermwr lleol geisio cael gwared ar dylwyth teg o’i dir. Denwyd Madoc, ŵyr y ffermwr, i ogof gan gerddoriaeth iasol rai wythnosau cyn ei briodas. Wrth gamu o'r ogof, dysgodd iddo fod i ffwrdd am 100 mlynedd a chafodd ei droi'n llwch gan y sioc.

    Darlun - hawlfraint Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru
    Darn ysgrifenedig - hawlfraint Patrick Jones / Pete Fowler / Llenyddiaeth Cymru

    More Cymru Ryfedd a Chyfareddol locations