Dafliad carreg o’r bandstand, mae’r parc hwn yn gofeb i Evan James (1809-1878) a James James (1833-1902), y tad a’r mab o Bontypridd a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru. I’w coffáu, ceir yma gerfluniau o gymeriadau efydd mewn mentyll Celtaidd – gŵr yn dal telyn yn cynrychioli’r gerddoriaeth, a menyw yn cynrychioli’r farddoniaeth. Dewch i ddarganfod mwy amdanynt ac am hanes y dref ei hun drwy ddilyn y Llwybr Treftadaeth sy’n cychwyn o Amgueddfa Pontypridd. Mae canllaw clywedol ar gael yma. Cyn gadael Parc Coffa Ynysangharad, sy’n lle penigamp i’r teulu, mwynhewch y maes chwarae newydd sbon a’r Lido gwych o’r 1920au sydd wedi’i ailddatblygu’n ddiweddar.