Llwybr heddychlon rhyw bum milltir o hyd yw’r Lôn Goed, y glaslawr dan eich traed a’r derw’n fwa plethedig uwch eich pen. Mae’n dyddio o ran gynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth greu’r ffordd drol, y nod oedd agor llwybr o’r arfordir tua’r tir er mwyn cludo cerrig i Ystâd Mostyn, ac mae’n adnabyddus i filoedd o Gymry yn sgil cerdd enwog R Williams Parry (1884-1956), Eifionydd. Mae’r llonyddwch gorffenedig o’r herwydd yn denu sawl un sy’n mwynhau barddoniaeth Gymraeg, yn ogystal â’r rheini sydd am noddfa dawel yng nghefn gwlad. Mae’r llwybr syth hefyd yn gartref i fywyd gwyllt o bob math, a chadwch olwg am ffwlbartiaid, ystlumod, tylluanod gwynion, ysgyfarnogod a gwencïod wrth ichi gerdded. Wrth gyrraedd yr arfordir, piciwch heibio i Dafarn y Plu yn Llanystumdwy am lymaid cyn troi’n eich ôl. Mae’r dafarn ddifyr hon i’w chanfod dros y ffordd i gartref mebyd David Lloyd George, ac mae’n ffefryn ymhlith awduron sy’n tiwtora ac ar gyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gerllaw.
Poster – hawlfraint Graffeg.