Abaty Glyn y Groes

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
valle-crucis-abbey

Bardd a milwr oedd Guto'r Glyn (1435-1493). Mae'n cael ei ystyried yn un o feistri traddodiad y canu mawl neu'r canu cyfarch. Brwydrau fydd yn aml wedi ysbrydoli’r canu hwnnw, wrth i’r bardd gyfarch yr uchelwyr sy’n ei noddi. Mae cerddi Guto’r Glyn yn arbennig o nodedig am eu ffraethineb, eu dychan a’u hiwmor. Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf yn Abaty Glyn y Groes, gan farddoni am yr adeiladau a’i fywyd yno. Gofalodd y mynachod amdano pan aeth yn ddall. Bu farw yn yr Abaty, ac yno y claddwyd ef. Mae’r safle rhyfeddol hwn mewn cyflwr gyda’r gorau yng Nghymru: mae hyd yn oed llyn pysgod y mynachod yn llawn dŵr o hyd. Cadw sy’n gofalu am Abaty Glyn y Groes. Mae Eurig Salisbury, y bardd a’r academydd cyfoes, wedi cyfrannu at wefan Guto’r Glyn.

Abaty Glyn y Groes

  • Bardd a milwr oedd Guto'r Glyn (1435-1493). Mae'n cael ei ystyried yn un o feistri traddodiad y canu mawl neu'r canu cyfarch. Brwydrau fydd yn aml wedi ysbrydoli’r canu hwnnw, wrth i’r bardd gyfarch yr uchelwyr sy’n ei noddi. Mae cerddi Guto’r Glyn yn arbennig o nodedig am eu ffraethineb, eu dychan a’u hiwmor. Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf yn Abaty Glyn y Groes, gan farddoni am yr adeiladau a’i fywyd yno. Gofalodd y mynachod amdano pan aeth yn ddall. Bu farw yn yr Abaty, ac yno y claddwyd ef. Mae’r safle rhyfeddol hwn mewn cyflwr gyda’r gorau yng Nghymru: mae hyd yn oed llyn pysgod y mynachod yn llawn dŵr o hyd. Cadw sy’n gofalu am Abaty Glyn y Groes. Mae Eurig Salisbury, y bardd a’r academydd cyfoes, wedi cyfrannu at wefan Guto’r Glyn.

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations