Abaty Tyndyrn

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
tintern-abbey

Mae’n bosibl mai yn Abaty Tyndyrn y mae adfeilion canoloesol enwocaf Cymru, man a ddaeth yn ffasiynol ymhlith ymwelwyr yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Sefydlwyd yr abaty ym 1131, a syfrdanol yn wir yw ei weld yn sefyll ar odre serth Dyffryn Gwy, a’r bwâu gothig anferth yn rhoi darlun gwahanol o sawl ongl. Bu William Wordsworth (1770-1850) yma ddwywaith – unwaith ym 1793 a drachefn ym 1798. Yn y gerdd Lines Written a Few Miles above Tintern Abbey, mae’n hel atgofion am ei daith gynharach ac yn myfyrio am y pum mlynedd a aeth heibio. Mae artistiaid dirifedi eraill wedi’u hysbrydoli fan hyn hefyd, gan gynnwys yr arlunwyr Thomas Gainsborough a JMW Turner. Ar ôl chwilio drwy ffotograffau yn archif Roald Dahl yn ddiweddar, cafwyd hyd i lun o’r awdur ifanc a’i chwiorydd yn Nhyndyrn, llun nad oedd wedi gweld golau dydd o’r blaen. Cadw sydd bellach yn gofalu am y safle. 

Abaty Tyndyrn

  • Mae’n bosibl mai yn Abaty Tyndyrn y mae adfeilion canoloesol enwocaf Cymru, man a ddaeth yn ffasiynol ymhlith ymwelwyr yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Sefydlwyd yr abaty ym 1131, a syfrdanol yn wir yw ei weld yn sefyll ar odre serth Dyffryn Gwy, a’r bwâu gothig anferth yn rhoi darlun gwahanol o sawl ongl. Bu William Wordsworth (1770-1850) yma ddwywaith – unwaith ym 1793 a drachefn ym 1798. Yn y gerdd Lines Written a Few Miles above Tintern Abbey, mae’n hel atgofion am ei daith gynharach ac yn myfyrio am y pum mlynedd a aeth heibio. Mae artistiaid dirifedi eraill wedi’u hysbrydoli fan hyn hefyd, gan gynnwys yr arlunwyr Thomas Gainsborough a JMW Turner. Ar ôl chwilio drwy ffotograffau yn archif Roald Dahl yn ddiweddar, cafwyd hyd i lun o’r awdur ifanc a’i chwiorydd yn Nhyndyrn, llun nad oedd wedi gweld golau dydd o’r blaen. Cadw sydd bellach yn gofalu am y safle. 

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations