Y Royal Oak, Abergwaun

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
the-royal-oak-fishguard

Roedd tref hanesyddol glan môr Abergwaun yn gartref i Jemima Nicholas (1750-1832) . Menyw leol a oedd yn ddigon i godi arswyd ar neb oedd Jemima ac ym 1797, a hithau ar ei phen ei hun a dim ond picwarch yn arf, dywedir iddi gipio dwsin o filwyr Ffrainc oedd yn ymosod ar y dref. Ildiodd  y Ffrancwyr yn fuan wedyn a llofnodwyd y cytuniad heddwch yn nhafarn y Royal Oak lle'r oedd pencadlys yr Arglwydd Cawdor, cadlywydd lluoedd Prydain ar y pryd. Adroddir hanes rhyfeddol Brwydr Abergwaun (rhan o'r goresgyniad diwethaf gan bŵer tramor ar dir Prydain) mewn tapestri anhygoel 30 metr o hyd sydd i’w weld yn Neuadd y Dref. Daeth Jemima yn arwres yng Nghymru a rhoddwyd pensiwn am oes iddi – mae ei bedd ym mynwent yr eglwys dros y ffordd. Gallwch ddarllen ei hanes yn y nofel Jemima Nicholas: Arwres Abergwaun gan Siân Lewis (g. 1945).


Y Royal Oak, Abergwaun

  • Roedd tref hanesyddol glan môr Abergwaun yn gartref i Jemima Nicholas (1750-1832) . Menyw leol a oedd yn ddigon i godi arswyd ar neb oedd Jemima ac ym 1797, a hithau ar ei phen ei hun a dim ond picwarch yn arf, dywedir iddi gipio dwsin o filwyr Ffrainc oedd yn ymosod ar y dref. Ildiodd  y Ffrancwyr yn fuan wedyn a llofnodwyd y cytuniad heddwch yn nhafarn y Royal Oak lle'r oedd pencadlys yr Arglwydd Cawdor, cadlywydd lluoedd Prydain ar y pryd. Adroddir hanes rhyfeddol Brwydr Abergwaun (rhan o'r goresgyniad diwethaf gan bŵer tramor ar dir Prydain) mewn tapestri anhygoel 30 metr o hyd sydd i’w weld yn Neuadd y Dref. Daeth Jemima yn arwres yng Nghymru a rhoddwyd pensiwn am oes iddi – mae ei bedd ym mynwent yr eglwys dros y ffordd. Gallwch ddarllen ei hanes yn y nofel Jemima Nicholas: Arwres Abergwaun gan Siân Lewis (g. 1945).


    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations