Y Captain's Wife, Sili

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
the-captains-wife-sully

Mae tafarn y Captain’s Wife, sy'n sefyll ar ddarn creigiog o'r arfordir lle mae samplau paleontolegol o bwys i’w cael, yn llawn swyn gwledig. Byddai môr-ladron a smyglwyr yn aml yn ymweld ag Ynys Sili, ac mae modd croesi yno (â gofal) o’r dafarn pan fydd y llanw’n isel. Mae sôn bod drychiolaethau niferus yn crwydro’r dafarn, gan gynnwys ysbryd gwraig y Capten sy’n aml yn ymddangos ar ffurf cysgod tywyll, dryslyd. Mae’r stori honno’n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, os nad cynt, pan syrthiodd gwraig y Cyrnol Rhys mewn cariad â morwr ifanc. Trefnodd y cariadon y byddent yn dianc gyda’i gilydd ond daeth y Cyrnol Rhys o hyd iddynt a herio’r morwr i ymladd. Y morwr orchfygodd a dihangodd y cariadon i’r môr, lle boddodd Mrs Rhys.

Y Captain's Wife, Sili

  • Mae tafarn y Captain’s Wife, sy'n sefyll ar ddarn creigiog o'r arfordir lle mae samplau paleontolegol o bwys i’w cael, yn llawn swyn gwledig. Byddai môr-ladron a smyglwyr yn aml yn ymweld ag Ynys Sili, ac mae modd croesi yno (â gofal) o’r dafarn pan fydd y llanw’n isel. Mae sôn bod drychiolaethau niferus yn crwydro’r dafarn, gan gynnwys ysbryd gwraig y Capten sy’n aml yn ymddangos ar ffurf cysgod tywyll, dryslyd. Mae’r stori honno’n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, os nad cynt, pan syrthiodd gwraig y Cyrnol Rhys mewn cariad â morwr ifanc. Trefnodd y cariadon y byddent yn dianc gyda’i gilydd ond daeth y Cyrnol Rhys o hyd iddynt a herio’r morwr i ymladd. Y morwr orchfygodd a dihangodd y cariadon i’r môr, lle boddodd Mrs Rhys.

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations