Bryn Crug Hywel

Y WLAD A’I CHALEDI

… Treftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur
table-mountain-crickhowell

O Gruchywel, dringwch fryn Crug Hywel; bryn ac iddo gopa gwastad yn y Mynyddoedd Duon, a golygfeydd godidog oddi yno. Ardal yw hon sydd wedi ysbrydoli llu o awduron gan gynnwys y bardd Chris Meredith (g. 1955). Mae Border Country gan Raymond Williams (1921-1988) yn nofel sydd wedi’i lleoli yn yr ardal, a honno’n bwrw trem yn ôl i’r 1920au a’r 1930au a chyfnod y streic gyffredinol a’r dirwasgiad mawr. Fan hyn hefyd yw lleoliad nofel epig Williams, People of the Black Mountains. Yn y 1940au, bu JRR Tolkien (1892-1973) yn aros gerllaw yng Ngwaun y Geifr, a bu’n gweithio ar ddarnau o The Lord of the Rings yno. Ac yntau’n ysgrifennu ar adeg pan oedd diwydiant wedi gweddnewid cefn gwlad, yr ardal hon oedd yr ysbrydoliaeth i’w ddisgrifiadau hiraethus o’r ‘Shire’. Mae Crickhollow (Crughywel), Brandywine Bridge a Buckland, sef rhai o dreflannau’r hobitiaid yn y llyfr, i gyd yn llefydd cyfagos. Magwyd Owen Sheers (g. 1974) yn y dref gyfagos, Y Fenni, ac mae’n gerddwr brwd. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu am Fryn Crug Hywel.

Bryn Crug Hywel

  • O Gruchywel, dringwch fryn Crug Hywel; bryn ac iddo gopa gwastad yn y Mynyddoedd Duon, a golygfeydd godidog oddi yno. Ardal yw hon sydd wedi ysbrydoli llu o awduron gan gynnwys y bardd Chris Meredith (g. 1955). Mae Border Country gan Raymond Williams (1921-1988) yn nofel sydd wedi’i lleoli yn yr ardal, a honno’n bwrw trem yn ôl i’r 1920au a’r 1930au a chyfnod y streic gyffredinol a’r dirwasgiad mawr. Fan hyn hefyd yw lleoliad nofel epig Williams, People of the Black Mountains. Yn y 1940au, bu JRR Tolkien (1892-1973) yn aros gerllaw yng Ngwaun y Geifr, a bu’n gweithio ar ddarnau o The Lord of the Rings yno. Ac yntau’n ysgrifennu ar adeg pan oedd diwydiant wedi gweddnewid cefn gwlad, yr ardal hon oedd yr ysbrydoliaeth i’w ddisgrifiadau hiraethus o’r ‘Shire’. Mae Crickhollow (Crughywel), Brandywine Bridge a Buckland, sef rhai o dreflannau’r hobitiaid yn y llyfr, i gyd yn llefydd cyfagos. Magwyd Owen Sheers (g. 1974) yn y dref gyfagos, Y Fenni, ac mae’n gerddwr brwd. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu am Fryn Crug Hywel.

    More Y WLAD A’I CHALEDI locations