Abaty Ystrad Fflur

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
strata-florida-abbey

Mae adfeilion yr abaty Sistersaidd hwn yn sefyll mewn llecyn tawel, heddychlon i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Credir bod Dafydd ap Gwilym wedi'i gladdu yma, ac mae plac i’w goffáu i’w weld yng nghanol plethiadau brigau ywen hynafol. Fan hyn, ysgrifennwyd llawysgrifau lu, gan gynnwys Brut y Tywysogion ym 1330, sef hanes cyntaf Cymru yn Gymraeg, yn ogystal â sawl un o geinciau’r Mabinogi.  Mae Ystrad Fflur wedi ysbrydoli rhai o awduron gorau Cymru drwy’r oesoedd, gan gynnwys Hedd Wyn, Harri Webb, Ruth Bidgood, RS Thomas, Gillian Clarke a Gwyneth Lewis. Cyn diddymu’r fynachlog ym 1539, fan hyn hefyd oedd cartref y ddysgl ddirgel a elwir yn Gwpan Nanteos. Crwydrwch drwy’r adfeilion a’r dyffryn o flodau (sef ystyr yr enw o’i gyfieithu’n llythrennol o’r Lladin), sydd bellach yng ngofal Cadw.

Abaty Ystrad Fflur

  • Mae adfeilion yr abaty Sistersaidd hwn yn sefyll mewn llecyn tawel, heddychlon i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Credir bod Dafydd ap Gwilym wedi'i gladdu yma, ac mae plac i’w goffáu i’w weld yng nghanol plethiadau brigau ywen hynafol. Fan hyn, ysgrifennwyd llawysgrifau lu, gan gynnwys Brut y Tywysogion ym 1330, sef hanes cyntaf Cymru yn Gymraeg, yn ogystal â sawl un o geinciau’r Mabinogi.  Mae Ystrad Fflur wedi ysbrydoli rhai o awduron gorau Cymru drwy’r oesoedd, gan gynnwys Hedd Wyn, Harri Webb, Ruth Bidgood, RS Thomas, Gillian Clarke a Gwyneth Lewis. Cyn diddymu’r fynachlog ym 1539, fan hyn hefyd oedd cartref y ddysgl ddirgel a elwir yn Gwpan Nanteos. Crwydrwch drwy’r adfeilion a’r dyffryn o flodau (sef ystyr yr enw o’i gyfieithu’n llythrennol o’r Lladin), sydd bellach yng ngofal Cadw.

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations