Cerflun efydd uchel yw ‘Stand and Stare’, yn darlunio enaid y tu mewn i goeden bywyd. Mae’n gofeb drawiadol i W.H. Davies (1871-1940) o Gasnewydd, y bardd o grwydryn a ysgrifennodd y gerdd Leisure ac ynddi’r cwpled enwog: "What is this life if, full of care, we have no time to stand and stare". Ac yntau wedi cael llond bol ar ei fywyd yn brentis yng Nghasnewydd, gadawodd Davies i deithio’r byd fel gweithiwr ysbeidiol. Roedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei genhedlaeth, a’i waith yn trafod caledi, y berthynas rhwng pobl a byd natur, ei anturiaethau ei hun, a’r sefyllfaoedd a’r cymeriadau y daeth ar eu traws.
Llun o blac WH Davies - hawlfraint John Grayson / Geograph