Ffynnon Gwenffrewi

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
st-winefrides-well

Yn y seithfed ganrif y byrlymodd y ffynnon sanctaidd hon gyntaf pan godwyd Gwenffrewi o farw’n fyw gan ei hewythr, Beuno Sant (OC 545-640). Digwyddodd hyn ar ôl ymosodiad milain gan Caradog, a dorrodd ei phen â chleddyf. Aeth Beuno Sant ati i droi Caradog yn bwll o ddŵr, a suddodd hwnnw i’r ddaear. Gofalodd Gwenffrewi am y ffynnon sanctaidd wedyn tan y daeth yn abades maes o law. Mae pererinon wedi ymweld â’r dŵr iachaol fan hyn ers y ddeuddegfed ganrif, gan gynnwys Harri V ym 1416 (i ddiolch am Agincourt), James II a’r Frenhines Fictoria. Ceir cyfeiriad at Dreffynnon yn y gerdd epig, Sir Gawain and the Green Knight, un o’r chwedlau Arthuraidd mwyaf adnabyddus. Gall pererinion heddiw barhau i ymdrochi yn y pwll mawr y tu allan, yn ogystal ag ymweld â’r gysegrfan a Chapel y Santes Gwenffrewi sydd yng ngofal Cadw.

Ffynnon Gwenffrewi

  • Yn y seithfed ganrif y byrlymodd y ffynnon sanctaidd hon gyntaf pan godwyd Gwenffrewi o farw’n fyw gan ei hewythr, Beuno Sant (OC 545-640). Digwyddodd hyn ar ôl ymosodiad milain gan Caradog, a dorrodd ei phen â chleddyf. Aeth Beuno Sant ati i droi Caradog yn bwll o ddŵr, a suddodd hwnnw i’r ddaear. Gofalodd Gwenffrewi am y ffynnon sanctaidd wedyn tan y daeth yn abades maes o law. Mae pererinon wedi ymweld â’r dŵr iachaol fan hyn ers y ddeuddegfed ganrif, gan gynnwys Harri V ym 1416 (i ddiolch am Agincourt), James II a’r Frenhines Fictoria. Ceir cyfeiriad at Dreffynnon yn y gerdd epig, Sir Gawain and the Green Knight, un o’r chwedlau Arthuraidd mwyaf adnabyddus. Gall pererinion heddiw barhau i ymdrochi yn y pwll mawr y tu allan, yn ogystal ag ymweld â’r gysegrfan a Chapel y Santes Gwenffrewi sydd yng ngofal Cadw.

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations