RS Thomas (1913-2000) yw un o lenorion amlycaf Cymru erioed. Cyhoeddodd dros 20 cyfrol o farddoniaeth Saesneg, a’r cerddi hynny’n adleisio saernïaeth a natur delynegol barddoniaeth Gymraeg. Gŵr yn llawn gwrthgyferbyniadau oedd Thomas: dysgodd Gymraeg yn oedolyn, ond yn Saesneg yr ysgrifennai ac anfonodd ei fab i ysgol fonedd yn Lloegr. Roedd yn ŵr sychlyd, dwys ac anghymdeithasol yn aml. Ond fel offeiriad Anglicanaidd, byddai gofyn iddo gysuro a chydymdeimlo â’i blwyfolion. Yn dra dadleuol, roedd yn llafar o blaid yr IRA ac ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr, ond eto roedd yn heddychwr mawr ac yn gadwraethwr. Yn ystod ei yrfa, symud yn raddol tua’r gorllewin a wnaeth, cyn cyrraedd Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron. Dywedir iddo losgi ei gasog ar y traeth yno ar ôl oes o wasanaeth. Mae The Man Who Went Into the West: The Life of RS Thomas gan Byron Rogers yn fywgraffiad sy’n rhoi darlun gwych o’r gŵr hynod hwn. Mae Cymdeithas RS Thomas & ME Eldridge yn cynnal Gŵyl Gelf a Barddoniaeth blynyddol yn Aberdaron.