Capel Sant Gofan

ARTHUR A’I WYRTHIAU

... Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch
st-govans-chapel

Nid yw Cymru’n brin o gapeli hynod, capeli bychan iawn, a chapeli anghysbell. Mewn bwlch yng nghesail clogwyni Penfro, mae capel Sant Gofan o’r drydedd ganrif ar ddeg yn gyfuniad o’r tri. Fe’i sefydlwyd yn y chweched ganrif, ac efallai’n wir mai Syr Gwalchmai oedd Sant Gofan, sef nai i’r Brenin Arthur ac un o farchogion y Ford Gron. Dywedir ei fod wedi dod yma i ymddeol wedi marwolaeth Arthur, a byw fel meudwy ar ôl hynny. Ysbrydolodd ei fywyd sawl darn o waith celfyddydol, gan gynnwys Sir Gawain and the Green Knight, cerdd naratif o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a The Buried Giant gan Kazuo Ishiguro. Yn ôl y chwedl, waeth pa mor ofalus y cyfrwch chi’r grisiau sy’n arwain i lawr o'r llwybr uwchlaw, wnewch chi byth lwyddo i gyfri'r un nifer wrth ddringo'n ôl drachefn.

Capel Sant Gofan

  • Nid yw Cymru’n brin o gapeli hynod, capeli bychan iawn, a chapeli anghysbell. Mewn bwlch yng nghesail clogwyni Penfro, mae capel Sant Gofan o’r drydedd ganrif ar ddeg yn gyfuniad o’r tri. Fe’i sefydlwyd yn y chweched ganrif, ac efallai’n wir mai Syr Gwalchmai oedd Sant Gofan, sef nai i’r Brenin Arthur ac un o farchogion y Ford Gron. Dywedir ei fod wedi dod yma i ymddeol wedi marwolaeth Arthur, a byw fel meudwy ar ôl hynny. Ysbrydolodd ei fywyd sawl darn o waith celfyddydol, gan gynnwys Sir Gawain and the Green Knight, cerdd naratif o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a The Buried Giant gan Kazuo Ishiguro. Yn ôl y chwedl, waeth pa mor ofalus y cyfrwch chi’r grisiau sy’n arwain i lawr o'r llwybr uwchlaw, wnewch chi byth lwyddo i gyfri'r un nifer wrth ddringo'n ôl drachefn.

    More ARTHUR A’I WYRTHIAU locations