Abaty a Chartws Llandudoch

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
st-dogmaels-abbey-and-coach-house

Mae’r Abaty hwn wedi’i enwi ar ôl Sant Tudoch o’r chweched ganrif, cefnder honedig i Dewi Sant. Roedd fan hyn yn ganolfan ysbrydol a diwylliannol o bwys ar lannau afon Teifi, ac yn enwog unwaith am ei llyfrgell nodedig. Mae un o berlau llenyddol Abaty Llandudoch, Eusebius’ Historia Ecclesiastica o’r drydedd ganrif ar ddeg, wedi goroesi hyd heddiw ac i’w weld yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn eglwys Sant Tomos yr Apostol, y drws nesaf i’r Abaty, mae Carreg Sagranus ac arni arysgrifau Ogam. Yng Nghartws yr Abaty, mae amgueddfa ynghyd â chaffi a siop sy’n gwerthu cynnyrch lleol. I weld golygfeydd hyfryd, ewch am dro ar hyd Poppit Sands, neu teithiwch ar hyd y llwybrau coediog i’r gogledd o Landudoch ac fe ddaw Castell Albro i’r golwg yn annisgwyl; hen dloty Fictoraidd oedd hwn sydd wrthi’n cael ei adfer, ac mae yno lety gwyliau.

Abaty a Chartws Llandudoch

  • Mae’r Abaty hwn wedi’i enwi ar ôl Sant Tudoch o’r chweched ganrif, cefnder honedig i Dewi Sant. Roedd fan hyn yn ganolfan ysbrydol a diwylliannol o bwys ar lannau afon Teifi, ac yn enwog unwaith am ei llyfrgell nodedig. Mae un o berlau llenyddol Abaty Llandudoch, Eusebius’ Historia Ecclesiastica o’r drydedd ganrif ar ddeg, wedi goroesi hyd heddiw ac i’w weld yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn eglwys Sant Tomos yr Apostol, y drws nesaf i’r Abaty, mae Carreg Sagranus ac arni arysgrifau Ogam. Yng Nghartws yr Abaty, mae amgueddfa ynghyd â chaffi a siop sy’n gwerthu cynnyrch lleol. I weld golygfeydd hyfryd, ewch am dro ar hyd Poppit Sands, neu teithiwch ar hyd y llwybrau coediog i’r gogledd o Landudoch ac fe ddaw Castell Albro i’r golwg yn annisgwyl; hen dloty Fictoraidd oedd hwn sydd wrthi’n cael ei adfer, ac mae yno lety gwyliau.

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations