Yn ôl Sieffre o Fynwy (c. 1100-1155) yn ei Historia Regum Britanniae (‘Hanes Brenhinoedd Prydain’), Caerllion yw lleoliad Camelot, llys chwedlonol y Brenin Arthur. Mae hon yn gaer Rufeinig o bwys ac ynddi theatr gron fwyaf cyflawn Prydain, baddondy a barics. Cadw sy’n gofalu am y lle erbyn hyn, ac mae’n rhoi i ymwelwyr ddarlun byw o fywyd yn y Brydain Rufeinig. Gerllaw mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru lle gallwch weld sut fywyd oedd gan bobl yma bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Arhosodd y bardd, yr Arglwydd Alfred Tennyson, yn yr Hanbury Arms yng Nghaerllion wrth ysgrifennu Idylls of the King ym 1856. Mae’r gerdd epig hon yn adrodd hanes y Brenin Arthur, ei farchogion, ei gariad at Gwenhwyfar, a brad honno.