Maen Coffa Llywelyn Ein Llyw Olaf, Cilmeri

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
prince-llywelyn-monument-cilmeri

Mewn llecyn cysegredig ym mhentref Cilmeri saif maen hir a godwyd i goffáu Llywelyn ap Gruffudd (1223-1282) – tywysog olaf y Gymru annibynnol cyn concwest Edward I. Cynhelir seremoni yma’n flynyddol i gofio’i farwolaeth. Llywelyn Ein Llyw Olaf oedd ysbrydoliaeth marwnad enwog Gruffudd ab yr Ynad Coch (1277-1282) a’r awdl ysgubol Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen (1944-2014). Mae merch Llywelyn, Gwenllian (1282-1337), hefyd yn gymeriad trasig yn niwylliant Cymru. Cipiwyd Gwenllian gan Edward I a’i charcharu ym Mhriordy Gilbertine yn Swydd Lincoln tan ei marwolaeth. Mae hi wedi ysbrydoli sawl cerdd o bwys gan gynnwys Gwenllian gan T. James Jones (g. 1934) ac In Sempringham gan Mererid Hopwood (g. 1964).

Maen Coffa Llywelyn Ein Llyw Olaf, Cilmeri

  • Mewn llecyn cysegredig ym mhentref Cilmeri saif maen hir a godwyd i goffáu Llywelyn ap Gruffudd (1223-1282) – tywysog olaf y Gymru annibynnol cyn concwest Edward I. Cynhelir seremoni yma’n flynyddol i gofio’i farwolaeth. Llywelyn Ein Llyw Olaf oedd ysbrydoliaeth marwnad enwog Gruffudd ab yr Ynad Coch (1277-1282) a’r awdl ysgubol Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen (1944-2014). Mae merch Llywelyn, Gwenllian (1282-1337), hefyd yn gymeriad trasig yn niwylliant Cymru. Cipiwyd Gwenllian gan Edward I a’i charcharu ym Mhriordy Gilbertine yn Swydd Lincoln tan ei marwolaeth. Mae hi wedi ysbrydoli sawl cerdd o bwys gan gynnwys Gwenllian gan T. James Jones (g. 1934) ac In Sempringham gan Mererid Hopwood (g. 1964).

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations