Plas Newydd, Llangollen

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
plas-newydd-llangollen

Gan ymgartrefu â'i gilydd ym 1778, efallai'n wir mai'r Fonesig Eleanor Butler (1739-1829) a Miss Sarah Ponsonby (1755-1831) – ‘Merched Llangollen’ – oedd y cwpl lesbaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn agored ynghylch hynny. Ond nid troi cefn arnynt wnaeth cymdeithas. Yn hytrach, daethant yn enwog iawn a bu beirdd fel William Wordsworth, Percy Bysshe Shelley, Syr Walter Scott a'r Arglwydd Byron yn ymweld â hwy. Yn ei llyfr The Flight of the Wild Goose, soniodd Dr Mary Gordon am y sgwrs ddrychiolaethol a gafodd â’r merched pan arhosodd ym Mhlas Newydd yn y 1930au. Dywedir bod y merched yn dychwelyd i’w plasty hoff bob noswyl Nadolig – ac mai dim ond dynion a all weld eu hysbrydion.

Plas Newydd, Llangollen

  • Gan ymgartrefu â'i gilydd ym 1778, efallai'n wir mai'r Fonesig Eleanor Butler (1739-1829) a Miss Sarah Ponsonby (1755-1831) – ‘Merched Llangollen’ – oedd y cwpl lesbaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn agored ynghylch hynny. Ond nid troi cefn arnynt wnaeth cymdeithas. Yn hytrach, daethant yn enwog iawn a bu beirdd fel William Wordsworth, Percy Bysshe Shelley, Syr Walter Scott a'r Arglwydd Byron yn ymweld â hwy. Yn ei llyfr The Flight of the Wild Goose, soniodd Dr Mary Gordon am y sgwrs ddrychiolaethol a gafodd â’r merched pan arhosodd ym Mhlas Newydd yn y 1930au. Dywedir bod y merched yn dychwelyd i’w plasty hoff bob noswyl Nadolig – ac mai dim ond dynion a all weld eu hysbrydion.

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations