Plas Mawr o Oes Elisabeth

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
plas-mawr-elizabethan-town-house

Tŷ a godwyd rhwng 1577 a 1580 yw Plas Mawr. Mae’n llawn addurniadau crand, a’r llefydd tân a’u gwaith plastr lliwgar yn werth eu gweld. Yn ôl y sôn, mae ysbryd Robert Wynn (1520-1598), y perchennog cyntaf a fu farw o dorcalon, yn dal i grwydro’r ystafelloedd. Dal i chwilio y mae – medden nhw – am feddyg ifanc yr oedd arno ormod o ofn trin gwraig a mab ifanc Wynn. Cymaint o ofn yn wir nes dianc i fyny’r simne, a cheisio dial arno y mae Wynn hyd heddiw. Bu farw’r wraig a’r plentyn maes o law, ac ar ôl mynd yn sownd, marw wnaeth y meddyg yntau. Yn ystod rhai cyfnodau o'r flwyddyn, mae teithiau tywys fin nos ar gael ym Mhlas Mawr. Bydd eich tywysydd yn adrodd hanes y tŷ ac yn ailadrodd hen goelion i'ch dychryn. Wrth i chi gerdded drwy'r hen goridorau fe welwch ystafelloedd wedi eu haddurno gyda phatrymau pentagram er mwyn dychryn eneidiau drwg - digon i godi gwrychyn. Cynhelir y tŷ gan Cadw.

Plas Mawr o Oes Elisabeth

  • Tŷ a godwyd rhwng 1577 a 1580 yw Plas Mawr. Mae’n llawn addurniadau crand, a’r llefydd tân a’u gwaith plastr lliwgar yn werth eu gweld. Yn ôl y sôn, mae ysbryd Robert Wynn (1520-1598), y perchennog cyntaf a fu farw o dorcalon, yn dal i grwydro’r ystafelloedd. Dal i chwilio y mae – medden nhw – am feddyg ifanc yr oedd arno ormod o ofn trin gwraig a mab ifanc Wynn. Cymaint o ofn yn wir nes dianc i fyny’r simne, a cheisio dial arno y mae Wynn hyd heddiw. Bu farw’r wraig a’r plentyn maes o law, ac ar ôl mynd yn sownd, marw wnaeth y meddyg yntau. Yn ystod rhai cyfnodau o'r flwyddyn, mae teithiau tywys fin nos ar gael ym Mhlas Mawr. Bydd eich tywysydd yn adrodd hanes y tŷ ac yn ailadrodd hen goelion i'ch dychryn. Wrth i chi gerdded drwy'r hen goridorau fe welwch ystafelloedd wedi eu haddurno gyda phatrymau pentagram er mwyn dychryn eneidiau drwg - digon i godi gwrychyn. Cynhelir y tŷ gan Cadw.

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations