Pistyll Rhaeadr

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
pistyll-rhaeadr-falls

Mae chwedl Draig Llanrhaeadr ym Mhistyll Rhaeadr yn un o’r goreuon i’r rhai sy’n hoff o glywed am y da yn trechu’r drwg. Arferai neidr adeiniog o’r enw Gwybr fyw yn y llyn uwch y rhaeadr a byddai honno’n arswydo’r pentrefwyr a oedd yn byw islaw. Yn y pen draw, twyllodd y bobl leol Gwybr a gwneud iddi dybio'i bod yn gweld draig arall. Pan ymosododd Gwybr arni, aeth yn sownd ar bigau cudd, gan roi heddwch i’r trigolion o’r diwedd. Pistyll Rhaeadr yw rhaeadr unllen fwyaf y Deyrnas Unedig, yn tywallt 80m i’r dŵr. Yn wir, mae’n uwch o lawer na’r Niagra Falls. Mae’n lle hudol bob adeg, ac ar yr achlysuron prin hynny pan fydd yn rhewi’n gorn, yn ddigon i godi ias fendigedig.  

Llun o ben y Rhaeadr – hawlfraint Chris Downer

Pistyll Rhaeadr

  • Mae chwedl Draig Llanrhaeadr ym Mhistyll Rhaeadr yn un o’r goreuon i’r rhai sy’n hoff o glywed am y da yn trechu’r drwg. Arferai neidr adeiniog o’r enw Gwybr fyw yn y llyn uwch y rhaeadr a byddai honno’n arswydo’r pentrefwyr a oedd yn byw islaw. Yn y pen draw, twyllodd y bobl leol Gwybr a gwneud iddi dybio'i bod yn gweld draig arall. Pan ymosododd Gwybr arni, aeth yn sownd ar bigau cudd, gan roi heddwch i’r trigolion o’r diwedd. Pistyll Rhaeadr yw rhaeadr unllen fwyaf y Deyrnas Unedig, yn tywallt 80m i’r dŵr. Yn wir, mae’n uwch o lawer na’r Niagra Falls. Mae’n lle hudol bob adeg, ac ar yr achlysuron prin hynny pan fydd yn rhewi’n gorn, yn ddigon i godi ias fendigedig.  

    Llun o ben y Rhaeadr – hawlfraint Chris Downer

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations