Castell Pennard

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
pennard-castle

Mae sawl chwedl ynghlwm wrth adfeilion y castell hwn o'r ddeuddegfed ganrif, castell sy'n edrych draw dros Fae'r Tri Chlogwyn. Yn ôl yr hanes, fe’i codwyd dros nos gan ddewin i’w achub ei hun rhag cael ei ladd gan y Normaniaid. Mae enaid Gwrach-y-rhibyn wedyn yn dal i aflonyddu ar unrhyw un sy’n meiddio treulio noson yng nghanol yr adfeilion, tra bo stori leol arall yn sôn am y Tylwyth Teg yn dod o’r twyni tywod i felltithio’r castell wedi i Arglwydd Castell Pennard eu bygwth â chleddyfau. Hanes arall eto yw hwnnw am forwyn yn ei thaflu’i hun oddi ar Fryn Penrice ar ôl dial am farwolaeth ei chariad. Mae’n lle digon iasol, ond mae’r golygfeydd o Gastell Pennard yn wych.

Castell Pennard

  • Mae sawl chwedl ynghlwm wrth adfeilion y castell hwn o'r ddeuddegfed ganrif, castell sy'n edrych draw dros Fae'r Tri Chlogwyn. Yn ôl yr hanes, fe’i codwyd dros nos gan ddewin i’w achub ei hun rhag cael ei ladd gan y Normaniaid. Mae enaid Gwrach-y-rhibyn wedyn yn dal i aflonyddu ar unrhyw un sy’n meiddio treulio noson yng nghanol yr adfeilion, tra bo stori leol arall yn sôn am y Tylwyth Teg yn dod o’r twyni tywod i felltithio’r castell wedi i Arglwydd Castell Pennard eu bygwth â chleddyfau. Hanes arall eto yw hwnnw am forwyn yn ei thaflu’i hun oddi ar Fryn Penrice ar ôl dial am farwolaeth ei chariad. Mae’n lle digon iasol, ond mae’r golygfeydd o Gastell Pennard yn wych.

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations