Neuadd Les y Glowyr, Onllwyn

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
onllwyn-miners-welfare-hall

Roedd y ffilm Pride yn 2014, a Dominic West ac Imelda Staunton yn serennu ynddi, wedi’i seilio ar hanes cynghrair annisgwyl rhwng pobl Cwm Dulais a grŵp o bobl hoyw a lesbaidd o Lundain. Adeg Streic y Glowyr 1984 oedd hi, a hwnnw’n gyfnod pan oedd homoffobia yn beth digon cyffredin. Serch hynny, aeth LGSM (‘Lesbians and Gays Support the Miners’) ati i geisio helpu’r teuluoedd drwy godi arian i Grŵp Cymorth Glowyr Castell-Nedd, Dulais a Chwm Tawe. Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn oedd lleoliad golygfa gofiadwy’r disgo yn y ffilm, gyda’r gantores a’r gyfansoddwraig ifanc, Bronwen Lewis, yn canu’r gân ‘Bread and Roses’. Geiriau James Oppenheim, y bardd o Americanwr, oedd yr ysbrydoliaeth. Cynhaliwyd aduniad yn ddiweddar rhwng y ddau grŵp gan godi arian at elusen HIV. Mae lolfa a bar yn y Neuadd, a honno’n cynnal digwyddiadau rheolaidd.

Llun - hawlfraint Coal Industry Social Welfare Organisation

Neuadd Les y Glowyr, Onllwyn

  • Roedd y ffilm Pride yn 2014, a Dominic West ac Imelda Staunton yn serennu ynddi, wedi’i seilio ar hanes cynghrair annisgwyl rhwng pobl Cwm Dulais a grŵp o bobl hoyw a lesbaidd o Lundain. Adeg Streic y Glowyr 1984 oedd hi, a hwnnw’n gyfnod pan oedd homoffobia yn beth digon cyffredin. Serch hynny, aeth LGSM (‘Lesbians and Gays Support the Miners’) ati i geisio helpu’r teuluoedd drwy godi arian i Grŵp Cymorth Glowyr Castell-Nedd, Dulais a Chwm Tawe. Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn oedd lleoliad golygfa gofiadwy’r disgo yn y ffilm, gyda’r gantores a’r gyfansoddwraig ifanc, Bronwen Lewis, yn canu’r gân ‘Bread and Roses’. Geiriau James Oppenheim, y bardd o Americanwr, oedd yr ysbrydoliaeth. Cynhaliwyd aduniad yn ddiweddar rhwng y ddau grŵp gan godi arian at elusen HIV. Mae lolfa a bar yn y Neuadd, a honno’n cynnal digwyddiadau rheolaidd.

    Llun - hawlfraint Coal Industry Social Welfare Organisation

    More GWRTHRYFEL A REBELIAID locations