Nyfer

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
nevern

Pentref tawel a phrydferth yw Nyfer (neu Nanhyfer) erbyn hyn, ond bu’n ganolfan eglwysig bwysig ers i Sant Brynach sefydlu ei fynachlog yma 1400 o flynyddoedd yn ôl. Mae rhodfa 700 mlwydd oed o goed yw yn arwain drwy fynwent hynafol Sant Brynach, ac yn eu plith yr ywen waedlyd enwog. Mae chwedlau di-rif yn ceisio egluro’r llif coch sy’n dod ohoni, gan gynnwys hanes am grogi gŵr ifanc ar gam ganrifoedd yn ôl, a’r ffaith nad oes Tywysog Cymreig yng Nghastell Nyfer gerllaw. Mae yma hefyd nifer o feini cerfiedig anhygoel, yn eu plith ddau ac arnynt arysgrifau Ogam, ynghyd â chroes Sant Brynach o’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg. Dywedir bod cwcw gyntaf y gwanwyn yn canu o fan hyn. Cerddwch ar hyd y llwybr gerllaw Afon Nyfer i weld croes enwog y pererin uwchben y grisiau yn y graig – dyma lwybr y bererindod rhwng Treffynnon a Thyddewi. Dewis arall yw troi tua'r dwyrain i weld adfeilion hynod y castell.

Llun - hawlfraint visitpembrokeshire 

Nyfer

  • Pentref tawel a phrydferth yw Nyfer (neu Nanhyfer) erbyn hyn, ond bu’n ganolfan eglwysig bwysig ers i Sant Brynach sefydlu ei fynachlog yma 1400 o flynyddoedd yn ôl. Mae rhodfa 700 mlwydd oed o goed yw yn arwain drwy fynwent hynafol Sant Brynach, ac yn eu plith yr ywen waedlyd enwog. Mae chwedlau di-rif yn ceisio egluro’r llif coch sy’n dod ohoni, gan gynnwys hanes am grogi gŵr ifanc ar gam ganrifoedd yn ôl, a’r ffaith nad oes Tywysog Cymreig yng Nghastell Nyfer gerllaw. Mae yma hefyd nifer o feini cerfiedig anhygoel, yn eu plith ddau ac arnynt arysgrifau Ogam, ynghyd â chroes Sant Brynach o’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg. Dywedir bod cwcw gyntaf y gwanwyn yn canu o fan hyn. Cerddwch ar hyd y llwybr gerllaw Afon Nyfer i weld croes enwog y pererin uwchben y grisiau yn y graig – dyma lwybr y bererindod rhwng Treffynnon a Thyddewi. Dewis arall yw troi tua'r dwyrain i weld adfeilion hynod y castell.

    Llun - hawlfraint visitpembrokeshire 

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations