Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Y WLAD A’I CHALEDI

… Treftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur
national-waterfront-museum

Mae sawl darn o lenyddiaeth yn cyfeirio at Gymru fel gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Amgueddfa arloesol yw hon ar lannau’r dŵr yn Abertawe, a hithau'n adrodd peth o hanes ein gorffennol diwydiannol a'r talcen caled a ddaeth yn sgil hynny. Mae Oriel Cyflawnwyr yr Amgueddfa yn canolbwyntio ar awduron ac artistiaid sydd â chefndir diwydiannol a’r dylanwad a gafodd hyn ar eu bywydau. O’r amgueddfa, gallwch gerdded ar hyd y Prom i weld cofeb Jac Abertawe, neu ‘Swansea Jack’. Achubodd y ci hynod hwn 27 o bobl rhag boddi yn nociau Abertawe yn y 1930au.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

  • Mae sawl darn o lenyddiaeth yn cyfeirio at Gymru fel gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Amgueddfa arloesol yw hon ar lannau’r dŵr yn Abertawe, a hithau'n adrodd peth o hanes ein gorffennol diwydiannol a'r talcen caled a ddaeth yn sgil hynny. Mae Oriel Cyflawnwyr yr Amgueddfa yn canolbwyntio ar awduron ac artistiaid sydd â chefndir diwydiannol a’r dylanwad a gafodd hyn ar eu bywydau. O’r amgueddfa, gallwch gerdded ar hyd y Prom i weld cofeb Jac Abertawe, neu ‘Swansea Jack’. Achubodd y ci hynod hwn 27 o bobl rhag boddi yn nociau Abertawe yn y 1930au.

    More Y WLAD A’I CHALEDI locations