Mae gan Kate Roberts (1891-1985) le annwyl iawn yng nghalonnau’r Cymry, ac nid ar chwarae bach y gelwir hi yn "Frenhines ein Llên". Fe’i ganwyd yng Nghae’r Gors, tyddyn bychan yn Rhosgadfan, lle gwelodd ei theulu o chwarelwyr yn ymlafnio i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae ei nofelau a’i straeon byrion amlhaenog yn agor cil y drws ar fywydau’r bobl a frwydrai yn erbyn tlodi yn yr ardal hon. Dyma un o themâu canolog Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard (1904-1980), a fagwyd ym Methesda heb fod nepell i ffwrdd. Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn lle gwych i ganfod mwy am y cymunedau hyn a’u hanesion. Cafodd yr atyniad ei ailwampio’n ddiweddar gyda nawdd o £1.6 miliwn gan y Loteri Genedlaethol. Mae’n sefyll mewn parc gwledig ar odre’r Wyddfa, ac ynddo un o olwynion dŵr mwya’r byd