Llyfrgell Genedlaethol Cymru

GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN

... Mythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu
national-library-of-wales

Mae hanes rhyfeddol i Gwpan Nanteos. Daeth i ddwylo teulu'r Poweliaid pan ddiddymwyd Abaty Ystrad Fflur ym 1539. Mae ei darddiad yn ddirgelwch mawr: mae rhai'n dweud bod y cwpan wedi'i wneud o Groes Crist ac eraill yn credu mai dyma'r Greal Sanctaidd. Ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'r bobl leol wedi honni bod ganddo bwerau goruwchnaturiol i iachau, ac arferent yfed ohono i wella'u anhwylderau. Gyda threigl amser, mae'r crair syml hwn wedi'i ddifrodi ac mae wedi bod yn destun cryn graffu er mwyn ceisio pwyso a mesur a yw’n ddilys neu beidio. Y cyfan sydd ar ôl bellach yw darn crwm o bren bregus, addurnedig. Cafodd ei ddwyn yn 2014 ond daethpwyd o hyd iddo eto yn 2015. Rhoddwyd y cwpan wedyn yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle gall ymwelwyr weld y gwrthrych dirgel hwn â'u llygaid eu hunain. Cynhelir arddangosfa ‘Arthur a Chwedloniaeth Cymru’ yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 22 Gorffennaf - 16 Rhagfyr 2017. Yn ogystal, bydd y llyfrgell yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cysylltiol yn ystod y flwyddyn.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Mae hanes rhyfeddol i Gwpan Nanteos. Daeth i ddwylo teulu'r Poweliaid pan ddiddymwyd Abaty Ystrad Fflur ym 1539. Mae ei darddiad yn ddirgelwch mawr: mae rhai'n dweud bod y cwpan wedi'i wneud o Groes Crist ac eraill yn credu mai dyma'r Greal Sanctaidd. Ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'r bobl leol wedi honni bod ganddo bwerau goruwchnaturiol i iachau, ac arferent yfed ohono i wella'u anhwylderau. Gyda threigl amser, mae'r crair syml hwn wedi'i ddifrodi ac mae wedi bod yn destun cryn graffu er mwyn ceisio pwyso a mesur a yw’n ddilys neu beidio. Y cyfan sydd ar ôl bellach yw darn crwm o bren bregus, addurnedig. Cafodd ei ddwyn yn 2014 ond daethpwyd o hyd iddo eto yn 2015. Rhoddwyd y cwpan wedyn yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle gall ymwelwyr weld y gwrthrych dirgel hwn â'u llygaid eu hunain. Cynhelir arddangosfa ‘Arthur a Chwedloniaeth Cymru’ yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 22 Gorffennaf - 16 Rhagfyr 2017. Yn ogystal, bydd y llyfrgell yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cysylltiol yn ystod y flwyddyn.

    More GEIRIAU EIN LLÊN GWERIN locations