Yr Wyddfa

ARTHUR A’I WYRTHIAU

... Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch
mount-snowdon

Mae cysylltiad amlwg rhwng y Brenin Arthur ac Eryri. Mae Ffynnon Cegin Arthur a Ffynnon Arthur ill dwy wedi’u henwi ar ei ôl, a dywedir bod gan y naill a’r llall rinweddau iachaol. Yn Eryri y mae rhai o lwybrau mynydda gorau Ewrop, yn ogystal â rhai o’r peryclaf. Yn ôl y sôn, ger safle’r garnedd ar gopa’r Wyddfa y syrthiodd y brenin ffyrnig, Rhita Gawr, ac yno o dan y cerrig y claddwyd ef. Mae’r chwedl yn honni i'r Brenin Arthur ddringo’r Wyddfa i ladd Rhita Gawr – gŵr a wisgai fantell o farfau’i elynion – a hynny am ei fradychu a ffoi gyda’i feistres. Ceir chwe llwybr troed sy’n arwain at y copa – mae pob un yn dipyn o her – neu neidiwch ar Drên Bach yr Wyddfa o Lanberis. Ar ôl cyrraedd Hafod Eryri, y ganolfan ymwelwyr, fe welwch y gerdd uchaf yng Nghymru, sef geiriau Gwyn Thomas, ail Fardd Cenedlaethol Cymru.

Yr Wyddfa

  • Mae cysylltiad amlwg rhwng y Brenin Arthur ac Eryri. Mae Ffynnon Cegin Arthur a Ffynnon Arthur ill dwy wedi’u henwi ar ei ôl, a dywedir bod gan y naill a’r llall rinweddau iachaol. Yn Eryri y mae rhai o lwybrau mynydda gorau Ewrop, yn ogystal â rhai o’r peryclaf. Yn ôl y sôn, ger safle’r garnedd ar gopa’r Wyddfa y syrthiodd y brenin ffyrnig, Rhita Gawr, ac yno o dan y cerrig y claddwyd ef. Mae’r chwedl yn honni i'r Brenin Arthur ddringo’r Wyddfa i ladd Rhita Gawr – gŵr a wisgai fantell o farfau’i elynion – a hynny am ei fradychu a ffoi gyda’i feistres. Ceir chwe llwybr troed sy’n arwain at y copa – mae pob un yn dipyn o her – neu neidiwch ar Drên Bach yr Wyddfa o Lanberis. Ar ôl cyrraedd Hafod Eryri, y ganolfan ymwelwyr, fe welwch y gerdd uchaf yng Nghymru, sef geiriau Gwyn Thomas, ail Fardd Cenedlaethol Cymru.

    More ARTHUR A’I WYRTHIAU locations