Traeth Morfa Nefyn

YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

... Ein hiaith a’n hunaniaeth
morfa-nefyn-beach

Bae cysgodol a harbwr naturiol ar Benrhyn Llŷn yw Morfa Nefyn, a’i draeth hir yn ymestyn am ddwy filltir. Ar y glannau hyn ym 1979 y gwelwyd y cyntaf o bedwar ymosodiad gan Feibion Glyndŵr yn yr ardal. Dyma’r mudiad cenedlaetholgar dirgel a wrthwynebai’r ffaith bod Saeson yn prynu tai lleol i’w defnyddio yn dai haf. Roedd hynny’n codi prisiau tai nes eu bod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl leol, gan orfodi pobl iau i adael yr ardal. Bu Meibion Glyndŵr yn gyfrifol am losgi tai haf a oedd yn eiddo i Saeson yng Nghymru tan ganol y 1990au. Yn dra dadleuol, roedd y bardd RS Thomas yn llafar o blaid y mudiad. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol daith gerdded o’r maes parcio ar hyd y traeth ac yn ôl dros frig y clogwyn. Gallwch oedi am lymaid neu bryd bach yn nhafarn enwog y Tŷ Coch ar lan y môr ym Mhorthdinllaen.

Traeth Morfa Nefyn

  • Bae cysgodol a harbwr naturiol ar Benrhyn Llŷn yw Morfa Nefyn, a’i draeth hir yn ymestyn am ddwy filltir. Ar y glannau hyn ym 1979 y gwelwyd y cyntaf o bedwar ymosodiad gan Feibion Glyndŵr yn yr ardal. Dyma’r mudiad cenedlaetholgar dirgel a wrthwynebai’r ffaith bod Saeson yn prynu tai lleol i’w defnyddio yn dai haf. Roedd hynny’n codi prisiau tai nes eu bod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl leol, gan orfodi pobl iau i adael yr ardal. Bu Meibion Glyndŵr yn gyfrifol am losgi tai haf a oedd yn eiddo i Saeson yng Nghymru tan ganol y 1990au. Yn dra dadleuol, roedd y bardd RS Thomas yn llafar o blaid y mudiad. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol daith gerdded o’r maes parcio ar hyd y traeth ac yn ôl dros frig y clogwyn. Gallwch oedi am lymaid neu bryd bach yn nhafarn enwog y Tŷ Coch ar lan y môr ym Mhorthdinllaen.

    More YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI locations