Maen Beuno yw’r enw ar y maen hir 1.6m sy’n sefyll gerllaw meingylch Dyffryn Lane, a hynny o fewn cylch cerrig seremonïol ehangach sy’n dyddio yn ôl i 3000-1800 CC. Byddai’r henebion hyn – ac eraill, gan gynnwys cylch cerrig, beddrodau cylch a chylch pren Sarn-y-Bryn-Caled – wedi tra-arglwyddiaethu ar y ddôl hon lle croesir afon Hafren. Ar ôl Beuno Sant (OC 545-640) y mae’r maen hir wedi’i enwi. Ganwyd Beuno yn Aberriw a bu’n pregethu’r efengyl o’r llecyn paganaidd hwn. Sefydlodd Eglwys Sant Beuno filltir i lawr y lôn, ac mae croesau cerrig, colofnau, hen goed yw a choed phalalwyf trawiadol yno. Cysegrwyd mwy o eglwysi yng Nghymru i Beuno Sant na’r un sant arall, ac mae’n ymddangos mewn nifer o chwedlau o’r cyfnod hwn. Gellir cyrraedd Aberriw o Lwybr Hafren ar hyd Camlas Trefaldwyn, ac mae yno sawl caffi a thŷ tafarn braf.