Sgwâr Loudoun, Tiger Bay

Y WLAD A’I CHALEDI

… Treftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur
loudon-square-tiger-bay

Yng nghanol milltir o dai yn ardal y dociau yng Nghaerdydd – Tiger Bay ar lafar gwlad – saif Sgwâr Loudoun. Yma y ceir un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y Deyrnas Unedig. Yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, Caerdydd am gyfnodau helaeth oedd metropolis glo’r byd. Does ryfedd felly i fewnfudwyr o’r pedwar ban gael eu denu yma i weithio ar y llongau ac i adeiladu a chynnal a chadw’r dociau. Mae byd cwlt tanddaearol Tiger Bay yn ymddangos yng ngweithiau rhai o awduron cyfoes y brifddinas. Yn eu plith mae The Hiding Place gan Trezza Azzopardi (g. 1961), nofel sy’n darlunio bywyd anodd teulu o fewnfudwyr o Falta, a bywgraffiad John L Williams (g. 1961) o’r ferch leol, y Fonesig Shirley Bassey. Un o’r lleisiau llenyddol pwysicaf yr ardal hon yw Leonora Brito, sy’n taflu goleuni ar ddiwylliant du cynhenid Bae Caerdydd. Bu farw yn 2007, ac fe ail-gyhoeddwyd ei chasgliad o straeon, Dat’s Love and Other Stories, gan The Library of Wales yn 2017. Mae'r ffilm Tiger Bay (1959) gyda'r actorion John a Hayley Mills yn cynnwys sawl golygfa a ffilmiwyd yn ardal y dociau. Ym Mae Caerdydd heddiw, mae mwy na digon at ddant yr anturiaethwyr modern. Ymgollwch mewn llyfr a thamaid i’w fwyta yn yr Octavo Bookshop Cafe & Wine-bar.

Sgwâr Loudoun, Tiger Bay

  • Yng nghanol milltir o dai yn ardal y dociau yng Nghaerdydd – Tiger Bay ar lafar gwlad – saif Sgwâr Loudoun. Yma y ceir un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y Deyrnas Unedig. Yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, Caerdydd am gyfnodau helaeth oedd metropolis glo’r byd. Does ryfedd felly i fewnfudwyr o’r pedwar ban gael eu denu yma i weithio ar y llongau ac i adeiladu a chynnal a chadw’r dociau. Mae byd cwlt tanddaearol Tiger Bay yn ymddangos yng ngweithiau rhai o awduron cyfoes y brifddinas. Yn eu plith mae The Hiding Place gan Trezza Azzopardi (g. 1961), nofel sy’n darlunio bywyd anodd teulu o fewnfudwyr o Falta, a bywgraffiad John L Williams (g. 1961) o’r ferch leol, y Fonesig Shirley Bassey. Un o’r lleisiau llenyddol pwysicaf yr ardal hon yw Leonora Brito, sy’n taflu goleuni ar ddiwylliant du cynhenid Bae Caerdydd. Bu farw yn 2007, ac fe ail-gyhoeddwyd ei chasgliad o straeon, Dat’s Love and Other Stories, gan The Library of Wales yn 2017. Mae'r ffilm Tiger Bay (1959) gyda'r actorion John a Hayley Mills yn cynnwys sawl golygfa a ffilmiwyd yn ardal y dociau. Ym Mae Caerdydd heddiw, mae mwy na digon at ddant yr anturiaethwyr modern. Ymgollwch mewn llyfr a thamaid i’w fwyta yn yr Octavo Bookshop Cafe & Wine-bar.

    More Y WLAD A’I CHALEDI locations