Llyn Tegid

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
llyn-tegid

Yn bedair milltir o hyd ac yn 40m a mwy o ddyfnder, Llyn Tegid yw llyn mwyaf Cymru, ac mae ganddo’i fwystfil ei hun: Tegi. Dyma o bosibl lle magwyd y bardd Taliesin yn y chweched ganrif. Mae fersiwn chwedlonol Elis Gruffydd (1490-1552) o fywyd Taliesin yn awgrymu ei fod yn was i’r cawr Tegid Foel, gŵr y ddewines Ceridwen. Mae’r llecyn lle safai llys Tegid Foel bellach o’r golwg o dan ddŵr y llyn ar ôl cael ei foddi’n sydyn. Yn ôl y trigolion lleol, mae goleuadau’r llys i’w gweld yn fflachio o dan y wyneb ar nosweithiau olau leuad. Ceir nifer o lwybrau o amgylch y llyn, ac mae Bala Adventure and Watersports ar y lan yn cynnig gweithgareddau antur o bob math. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu am Lyn Tegid.

Llyn Tegid

  • Yn bedair milltir o hyd ac yn 40m a mwy o ddyfnder, Llyn Tegid yw llyn mwyaf Cymru, ac mae ganddo’i fwystfil ei hun: Tegi. Dyma o bosibl lle magwyd y bardd Taliesin yn y chweched ganrif. Mae fersiwn chwedlonol Elis Gruffydd (1490-1552) o fywyd Taliesin yn awgrymu ei fod yn was i’r cawr Tegid Foel, gŵr y ddewines Ceridwen. Mae’r llecyn lle safai llys Tegid Foel bellach o’r golwg o dan ddŵr y llyn ar ôl cael ei foddi’n sydyn. Yn ôl y trigolion lleol, mae goleuadau’r llys i’w gweld yn fflachio o dan y wyneb ar nosweithiau olau leuad. Ceir nifer o lwybrau o amgylch y llyn, ac mae Bala Adventure and Watersports ar y lan yn cynnig gweithgareddau antur o bob math. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu am Lyn Tegid.

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations