Llyn Eiddwen

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
llyn-eiddwen

Llyn yn yr ucheldir yw Llyn Eiddwen a rhostir o'i amgylch. Dyma darddiad afon Aeron, yr afon yr enwodd Dylan Thomas (1914-1953) ei ferch Aeronwy ar ei hôl. Yn ôl darogan Myrddin, pan sycho Llyn Eiddwen, bydd Caerfyrddin ei hun yn suddo. Efallai bod cysylltiad rhwng hyn â thraddodiad arall bod y llyn yn borth i fyd y tylwyth teg. O rwystro'r porth hwnnw, byddai’n rhaid i’r tylwyth teg droi’n ymosodol gan na fyddai dim i’w hamddiffyn mwyach. Dywedir hefyd bod y llyn yn gartref hudol i ysbryd merch ac i anghenfil, yn ogystal ag i wartheg gwyllt a ddihangai o’r dŵr pan fyddai rhywun yn tarfu arnynt. Ewch am dro i Warchodfa Natur Genedlaethol Llyn Eiddwen, sy’n lle gwych i weld llygod y dŵr, dyfrgwn ac adar dŵr.

Llun o dyfrgi - hawlfraint Chris Denny / Geograph

Llyn Eiddwen

  • Llyn yn yr ucheldir yw Llyn Eiddwen a rhostir o'i amgylch. Dyma darddiad afon Aeron, yr afon yr enwodd Dylan Thomas (1914-1953) ei ferch Aeronwy ar ei hôl. Yn ôl darogan Myrddin, pan sycho Llyn Eiddwen, bydd Caerfyrddin ei hun yn suddo. Efallai bod cysylltiad rhwng hyn â thraddodiad arall bod y llyn yn borth i fyd y tylwyth teg. O rwystro'r porth hwnnw, byddai’n rhaid i’r tylwyth teg droi’n ymosodol gan na fyddai dim i’w hamddiffyn mwyach. Dywedir hefyd bod y llyn yn gartref hudol i ysbryd merch ac i anghenfil, yn ogystal ag i wartheg gwyllt a ddihangai o’r dŵr pan fyddai rhywun yn tarfu arnynt. Ewch am dro i Warchodfa Natur Genedlaethol Llyn Eiddwen, sy’n lle gwych i weld llygod y dŵr, dyfrgwn ac adar dŵr.

    Llun o dyfrgi - hawlfraint Chris Denny / Geograph

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations