Llyn Celyn

YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

... Ein hiaith a’n hunaniaeth
llyn-celyn

Er y gwrthwynebiad chwyrn, rhwng 1960 a 1965, codwyd argae ar afon Tryweryn, gan foddi Capel Celyn a'r tir ffermio cyfagos i greu cronfa ddŵr i bobl Lerpwl. Roedd y pentref yn gymuned Gymraeg ddiwylliedig, ond cydsyniodd San Steffan i’r cynllun heb ymgynghori â neb yng Nghymru. Wrth brotestio yn erbyn hyn y daeth Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA) i’r amlwg gyntaf, gan dorri gwifrau’r meicroffonau a boddi lleisiau’r siaradwyr yn y seremoni agoriadol. Gyferbyn â Llyn Celyn saif Fron-goch, gwersyll lle carcharwyd cenedlaetholwyr Gwyddelig ar ôl Gwrthryfel y Pasg 1916. Bu Michael Collins yn garcharor yno, ac ar ôl Tryweryn, ffurfiwyd perthynas rhwng yr FWA a’r IRA. Roedd awduron fel RS Thomas a Saunders Lewis yn agored wleidyddol ar yr adeg hon – yn cefnogi’r mudiad ac yn llafar eu llais yn y dadleuon cyhoeddus yn ogystal ag yn eu gwaith llenyddol. Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn cynnig gweithgareddau chwaraeon dŵr ar afon Tryweryn.

Llun o Gapel Celyn gan Geoff Charles yn hydref 1963, adeg gwasanaeth datgorffori’r capel - trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

Llyn Celyn

  • Er y gwrthwynebiad chwyrn, rhwng 1960 a 1965, codwyd argae ar afon Tryweryn, gan foddi Capel Celyn a'r tir ffermio cyfagos i greu cronfa ddŵr i bobl Lerpwl. Roedd y pentref yn gymuned Gymraeg ddiwylliedig, ond cydsyniodd San Steffan i’r cynllun heb ymgynghori â neb yng Nghymru. Wrth brotestio yn erbyn hyn y daeth Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA) i’r amlwg gyntaf, gan dorri gwifrau’r meicroffonau a boddi lleisiau’r siaradwyr yn y seremoni agoriadol. Gyferbyn â Llyn Celyn saif Fron-goch, gwersyll lle carcharwyd cenedlaetholwyr Gwyddelig ar ôl Gwrthryfel y Pasg 1916. Bu Michael Collins yn garcharor yno, ac ar ôl Tryweryn, ffurfiwyd perthynas rhwng yr FWA a’r IRA. Roedd awduron fel RS Thomas a Saunders Lewis yn agored wleidyddol ar yr adeg hon – yn cefnogi’r mudiad ac yn llafar eu llais yn y dadleuon cyhoeddus yn ogystal ag yn eu gwaith llenyddol. Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn cynnig gweithgareddau chwaraeon dŵr ar afon Tryweryn.

    Llun o Gapel Celyn gan Geoff Charles yn hydref 1963, adeg gwasanaeth datgorffori’r capel - trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

    More YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI locations