Llyn Barfog

ARTHUR A’I WYRTHIAU

... Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch
llyn-barfog

Mae'n debyg i Lyn Barfog gael ei enwi ar ôl y brwyn sydd ym mhobman hyd ei lannau. Yn ôl y traddodiad, fan hyn oedd yr Afanc yn byw, anghenfil dŵr a wnâi fywyd trigolion Aberdyfi yn boen. Byddai’r bwystfil yn lladd pawb a phopeth a ddeuai’n rhy agos at y llyn, ac ar brydiau byddai’n creu llifogydd drwy chwipio’i gynffon neu’n ysbeilio’r ffermdir lleol. Galwyd ar y Brenin Arthur i helpu, a llusgodd hwnnw’r Afanc o’r llyn gan ddefnyddio cadwyn hudol a glymwyd i’w farch, Llamrai. Yn y frwydr ddilynol ar y lan, gadawodd Llamrai ôl ei garn ar y creigiau, ac mae hwnnw'n dal i'w weld heddiw. Carn March Arthur yw'r enw lleol arno. Os yr hoffech chi archwilio cysylltiadau Arthuraidd lleol ymhellach, gallwch ymweld â Labrinth y Brenin Arthur ger Corris.

Llun o Garn March Arthur - hawlfraint David Given
Paentiad - hawlfraint Pete Fowler / Llenddiaeth Cymru

Llyn Barfog

  • Mae'n debyg i Lyn Barfog gael ei enwi ar ôl y brwyn sydd ym mhobman hyd ei lannau. Yn ôl y traddodiad, fan hyn oedd yr Afanc yn byw, anghenfil dŵr a wnâi fywyd trigolion Aberdyfi yn boen. Byddai’r bwystfil yn lladd pawb a phopeth a ddeuai’n rhy agos at y llyn, ac ar brydiau byddai’n creu llifogydd drwy chwipio’i gynffon neu’n ysbeilio’r ffermdir lleol. Galwyd ar y Brenin Arthur i helpu, a llusgodd hwnnw’r Afanc o’r llyn gan ddefnyddio cadwyn hudol a glymwyd i’w farch, Llamrai. Yn y frwydr ddilynol ar y lan, gadawodd Llamrai ôl ei garn ar y creigiau, ac mae hwnnw'n dal i'w weld heddiw. Carn March Arthur yw'r enw lleol arno. Os yr hoffech chi archwilio cysylltiadau Arthuraidd lleol ymhellach, gallwch ymweld â Labrinth y Brenin Arthur ger Corris.

    Llun o Garn March Arthur - hawlfraint David Given
    Paentiad - hawlfraint Pete Fowler / Llenddiaeth Cymru

    More ARTHUR A’I WYRTHIAU locations