Llangennech

YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

... Ein hiaith a’n hunaniaeth
llangennech

Llangennech oedd cartref Eileen a Trefor Beasley (1921-2012; 1918-1994), dau ymgyrchydd arloesol a brotestiodd yn y 1950au yn erbyn diffyg defnydd o’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Ar ôl gwrthod talu’r dreth gyngor nes bod modd gwneud hynny yn Gymraeg, collodd y ddau y rhan fwyaf o’u heiddo yn y frwydr. Canmolwyd hwy gan Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith, ei ddarlith radio dyngedfennol. Mae’r pentref wedi cael sylw yn y newyddion eto yn ddiweddar mewn ffrae ynghylch addysg Gymraeg – ffrae y mae Huw Edwards, newyddiadurwr y BBC, wedi’i thrafod yn fanwl. O Langennech y deuai ei dad, Hywel Teifi Edwards (1934-2010), hanesydd o fri. Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010 i feithrin rhagoriaeth mewn astudiaethau iaith a llenyddiaeth Gymraeg. Ar ôl crwydro Llangennech, ewch draw i fwyty’r Sosban yn Llanelli, sy’n gweini cynnyrch lleol o’r radd flaenaf.

Llun - hawlfraint Stephen Lyons

Llangennech

  • Llangennech oedd cartref Eileen a Trefor Beasley (1921-2012; 1918-1994), dau ymgyrchydd arloesol a brotestiodd yn y 1950au yn erbyn diffyg defnydd o’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Ar ôl gwrthod talu’r dreth gyngor nes bod modd gwneud hynny yn Gymraeg, collodd y ddau y rhan fwyaf o’u heiddo yn y frwydr. Canmolwyd hwy gan Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith, ei ddarlith radio dyngedfennol. Mae’r pentref wedi cael sylw yn y newyddion eto yn ddiweddar mewn ffrae ynghylch addysg Gymraeg – ffrae y mae Huw Edwards, newyddiadurwr y BBC, wedi’i thrafod yn fanwl. O Langennech y deuai ei dad, Hywel Teifi Edwards (1934-2010), hanesydd o fri. Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010 i feithrin rhagoriaeth mewn astudiaethau iaith a llenyddiaeth Gymraeg. Ar ôl crwydro Llangennech, ewch draw i fwyty’r Sosban yn Llanelli, sy’n gweini cynnyrch lleol o’r radd flaenaf.

    Llun - hawlfraint Stephen Lyons

    More YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI locations