Glanfa Llan-ffwyst

Y WLAD A’I CHALEDI

… Treftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur
llanfoist-wharf-1

Mae tirwedd Blaenafon yn tystio’n fyw iawn i’r cyfnod pan oedd glo a haearn Cymru yn pweru diwydiannau’r byd. Yn fan hyn y cafodd Alexander Cordell (1914-1997) ysbrydoliaeth i’w nofel lwyddiannus, Rape of the Fair Country, sef y gyntaf mewn cyfres o nofelau yn edrych ar hanes cythryblus Cymru a helyntion y dosbarth gweithiol yn y cyfnod diwydiannol cynnar. Mae Blaenafon wedi adfywio yn ddiweddar, wrth i fuddsoddiad yn nhreftadaeth y fro arwain at gydnabod y lle yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2000. Ewch i’r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, a Gwaith Haearn Blaenafon i ganfod mwy. Mae Cordell wedi’i gladdu yn Llan-ffwys. Dilynwch y llwybr troed i Dŷ Cychod Glanfa Llan-ffwyst, a dringwch y grisiau tuag at lwybr y gamlas. Adeilad rhestredig Gradd II yw hwn ac mae modd ei logi fel llety gwyliau. O fan hyn, gallwch gerdded neu neidio ar fad a dilyn trywydd Camlas Mynwy a Brycheiniog.

Glanfa Llan-ffwyst

  • Mae tirwedd Blaenafon yn tystio’n fyw iawn i’r cyfnod pan oedd glo a haearn Cymru yn pweru diwydiannau’r byd. Yn fan hyn y cafodd Alexander Cordell (1914-1997) ysbrydoliaeth i’w nofel lwyddiannus, Rape of the Fair Country, sef y gyntaf mewn cyfres o nofelau yn edrych ar hanes cythryblus Cymru a helyntion y dosbarth gweithiol yn y cyfnod diwydiannol cynnar. Mae Blaenafon wedi adfywio yn ddiweddar, wrth i fuddsoddiad yn nhreftadaeth y fro arwain at gydnabod y lle yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2000. Ewch i’r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, a Gwaith Haearn Blaenafon i ganfod mwy. Mae Cordell wedi’i gladdu yn Llan-ffwys. Dilynwch y llwybr troed i Dŷ Cychod Glanfa Llan-ffwyst, a dringwch y grisiau tuag at lwybr y gamlas. Adeilad rhestredig Gradd II yw hwn ac mae modd ei logi fel llety gwyliau. O fan hyn, gallwch gerdded neu neidio ar fad a dilyn trywydd Camlas Mynwy a Brycheiniog.

    More Y WLAD A’I CHALEDI locations