Casnewydd-bach

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
little-newcastle

Bu T Llew Jones (1915-2009) yn ffefryn ymhlith teuluoedd ers degawdau, ac ysbrydolodd ei nofelau llawn antur, dihirod ac arwyr dewr genedlaethau o blant. Un rebel a herwr o'r fath oedd Bartholomew Roberts (1682-1722), sy’n fwy cyfarwydd inni fel Barti Ddu. Yng Nghasnewydd-bach y ganwyd Barti, a daeth maes o law yn fôr-leidr o fri. Yn wir, ysbeiliodd fwy o longau a dwyn mwy o aur na môr-ladron enwocaf Lloegr i gyd. Hwyliai’r Iwerydd a’r Caribî yn ymosod ar bopeth a welai, ac roedd ganddo enw am wisgo’n lliwgar ac am y bownti cynyddol a oedd ar gael am ei ddal. Bu’r awdur Daniel Defoe yn ymweld â’r ardal hon ym 1724 wrth ymchwilio i’w lyfr am Brydain. Sgwrsiodd â thrigolion oedd wedi adnabod y bachgen pryd tywyll, golygus, a adawodd am y môr yn ddeg oed ac na ddychwelodd byth. Mae Canolfan Gweithgareddau Sealyham gerllaw yn cynnig diwrnodau antur i deuluoedd.

Casnewydd-bach

  • Bu T Llew Jones (1915-2009) yn ffefryn ymhlith teuluoedd ers degawdau, ac ysbrydolodd ei nofelau llawn antur, dihirod ac arwyr dewr genedlaethau o blant. Un rebel a herwr o'r fath oedd Bartholomew Roberts (1682-1722), sy’n fwy cyfarwydd inni fel Barti Ddu. Yng Nghasnewydd-bach y ganwyd Barti, a daeth maes o law yn fôr-leidr o fri. Yn wir, ysbeiliodd fwy o longau a dwyn mwy o aur na môr-ladron enwocaf Lloegr i gyd. Hwyliai’r Iwerydd a’r Caribî yn ymosod ar bopeth a welai, ac roedd ganddo enw am wisgo’n lliwgar ac am y bownti cynyddol a oedd ar gael am ei ddal. Bu’r awdur Daniel Defoe yn ymweld â’r ardal hon ym 1724 wrth ymchwilio i’w lyfr am Brydain. Sgwrsiodd â thrigolion oedd wedi adnabod y bachgen pryd tywyll, golygus, a adawodd am y môr yn ddeg oed ac na ddychwelodd byth. Mae Canolfan Gweithgareddau Sealyham gerllaw yn cynnig diwrnodau antur i deuluoedd.

    More GWRTHRYFEL A REBELIAID locations