Castell Harlech

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
harlech-castle

Saif Castell Harlech ar safle’r hen lys yn y Mabinogi lle cyrhaeddodd Matholwch, Brenin Iwerddon, i briodi Branwen, chwaer Bendigeidfran y cawr. Arweiniodd y briodas aflwyddiannus at ryfel rhwng y ddwy wlad, a thorrwyd calon Branwen gan y dinistr a achosodd hynny. Codwyd y castell presennol ym 1283. Bryd hynny, safai ar glogwyni serth uwch y môr. Mae twyni tywod bellach yn ymestyn dros yr arfordir am bron i filltir, ac mae’n lle da i fynd am dro. Dyma’r castell hefyd a ysbrydolodd y gân ‘Gwŷr Harlech’ ar ôl un o gyrchoedd Rhyfeloedd y Rhosynnau. Cadw sy’n gofalu am y lle erbyn hyn.

Castell Harlech

  • Saif Castell Harlech ar safle’r hen lys yn y Mabinogi lle cyrhaeddodd Matholwch, Brenin Iwerddon, i briodi Branwen, chwaer Bendigeidfran y cawr. Arweiniodd y briodas aflwyddiannus at ryfel rhwng y ddwy wlad, a thorrwyd calon Branwen gan y dinistr a achosodd hynny. Codwyd y castell presennol ym 1283. Bryd hynny, safai ar glogwyni serth uwch y môr. Mae twyni tywod bellach yn ymestyn dros yr arfordir am bron i filltir, ac mae’n lle da i fynd am dro. Dyma’r castell hefyd a ysbrydolodd y gân ‘Gwŷr Harlech’ ar ôl un o gyrchoedd Rhyfeloedd y Rhosynnau. Cadw sy’n gofalu am y lle erbyn hyn.

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations