Castell Gwydir

SŴN Y MARW’N YMYRRYD

... Arswyd, ysbrydion ac Annwn
gwydir-castle

Ar ôl cael ei restru’n ddiweddar yn wythfed o blith deg gwesty mwyaf brawychus y byd, mae ysbrydion wedi'u gweld yng Nghastell Gwydir ers y 1800au. Ond efallai nad yw hynny’n syndod, gan fod yr adeilad yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn ôl y sôn, bu’r pumed Barwnig, Syr John Wynn (1628-1719), yn caru â morwyn a weithiai yn y Castell, a phan gymhlethodd y berthynas, fe’i llofruddiodd cyn cau ei chorff mewn gwagle yn un o'r simneiau. Dywedir bod ysbryd y Barwnig cyntaf, Syr John Wynn arall (1553-1627), hefyd yn crwydro’r lle, fel y mae ysbrydion ci a phlant sy’n llefain. Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn mynd rhagddo ar y castell, sydd bellach yn lle Gwely a Brecwast moethus. Lleolir Gwasg Gwydyr yn un o adeiladau allanol y castell. Mae’r wasg yn defnyddio dulliau argraffu traddodiadol, ac yn cynhyrchu argraffiadau cyfyngedig.

Castell Gwydir

  • Ar ôl cael ei restru’n ddiweddar yn wythfed o blith deg gwesty mwyaf brawychus y byd, mae ysbrydion wedi'u gweld yng Nghastell Gwydir ers y 1800au. Ond efallai nad yw hynny’n syndod, gan fod yr adeilad yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn ôl y sôn, bu’r pumed Barwnig, Syr John Wynn (1628-1719), yn caru â morwyn a weithiai yn y Castell, a phan gymhlethodd y berthynas, fe’i llofruddiodd cyn cau ei chorff mewn gwagle yn un o'r simneiau. Dywedir bod ysbryd y Barwnig cyntaf, Syr John Wynn arall (1553-1627), hefyd yn crwydro’r lle, fel y mae ysbrydion ci a phlant sy’n llefain. Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn mynd rhagddo ar y castell, sydd bellach yn lle Gwely a Brecwast moethus. Lleolir Gwasg Gwydyr yn un o adeiladau allanol y castell. Mae’r wasg yn defnyddio dulliau argraffu traddodiadol, ac yn cynhyrchu argraffiadau cyfyngedig.

    More SŴN Y MARW’N YMYRRYD locations