Ogof Paviland

YR HUDOL A’R CYSEGREDIG

... Paganiaid a phererinion
goats-hall-west-cave

Cafwyd hyd i Ddynes Goch Paviland (Pen-y-fai gan rai) yn yr ogof hon ym 1823. Roedd yr ysgerbwd o’r cyfnod Palaeolithig wedi’i gladdu gyda chasgliad o gregyn gwichiaid, ifori mamoth, a chadwyni a modrwyau o esgyrn. Roedd y bedd wedi’i orchuddio ag ocr coch ac roedd penglog mamoth ar ei ben. Yn ddiweddarach, canfuwyd mai sgerbwd gwryw 25 oed oedd yma mewn gwirionedd, a’i fod wedi cael ei gladdu tua 31,000 CC pan oedd yr ogof ar wastatir isel 70 milltir i mewn o’r môr. Efallai mai shaman oedd y Ddynes Goch – mae’r modd y mae’r bedd wedi’i drin yn anarferol o goeth i’r cyfnod.  Mae Black Apples of the Gower, nofel Iain Sinclair, yn ein dwyn ar daith ryfeddol drwy fannau dirgel Cymru, ac yn darlunio ymgais i gyrraedd yr ogof. Cyfansoddodd Menna Elfyn Y Dyn Unig yn deyrnged i'r Ddynes Goch. Pan fydd y môr ar drai, mae llwybr ar hyd yr arfordir yn arwain at yr ogof drwy Foxhole Slade. 

Ogof Paviland

  • Cafwyd hyd i Ddynes Goch Paviland (Pen-y-fai gan rai) yn yr ogof hon ym 1823. Roedd yr ysgerbwd o’r cyfnod Palaeolithig wedi’i gladdu gyda chasgliad o gregyn gwichiaid, ifori mamoth, a chadwyni a modrwyau o esgyrn. Roedd y bedd wedi’i orchuddio ag ocr coch ac roedd penglog mamoth ar ei ben. Yn ddiweddarach, canfuwyd mai sgerbwd gwryw 25 oed oedd yma mewn gwirionedd, a’i fod wedi cael ei gladdu tua 31,000 CC pan oedd yr ogof ar wastatir isel 70 milltir i mewn o’r môr. Efallai mai shaman oedd y Ddynes Goch – mae’r modd y mae’r bedd wedi’i drin yn anarferol o goeth i’r cyfnod.  Mae Black Apples of the Gower, nofel Iain Sinclair, yn ein dwyn ar daith ryfeddol drwy fannau dirgel Cymru, ac yn darlunio ymgais i gyrraedd yr ogof. Cyfansoddodd Menna Elfyn Y Dyn Unig yn deyrnged i'r Ddynes Goch. Pan fydd y môr ar drai, mae llwybr ar hyd yr arfordir yn arwain at yr ogof drwy Foxhole Slade. 

    More YR HUDOL A’R CYSEGREDIG locations