Bedd Gelert

BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD

... Rhyfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd
gelerts-grave-beddgelert

Beddgelert yw un o bentrefi prydferthaf Eryri. Enwyd y lle ar ôl Gelert, ci ffyddlon Llywelyn Fawr (1172-1240), Tywysog Gwynedd. Achubodd Gelert fab bychan Llywelyn wrth i flaidd geisio ymosod arno. Ond wrth gyrraedd adref a gweld y ci’n diferu o waed, collodd Llywelyn ei dymer a’i ladd. Dim ond bryd hynny y clywodd lefain y babi a sylwi ar y blaidd yn gelain gerllaw. Sylweddolodd ei gamgymeriad dybryd. Claddodd y tywysog edifar y ci y tu allan i waliau’r castell, mewn llecyn cysgodol lle mae carreg goffa erbyn hyn. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig taith gerdded fer ar hyd Afon Glaslyn sy’n olrhain chwedl Gelert a’i heffaith ar arlunwyr fel JMW Turner a’r awdur teithio, Thomas Pennant.

Bedd Gelert

  • Beddgelert yw un o bentrefi prydferthaf Eryri. Enwyd y lle ar ôl Gelert, ci ffyddlon Llywelyn Fawr (1172-1240), Tywysog Gwynedd. Achubodd Gelert fab bychan Llywelyn wrth i flaidd geisio ymosod arno. Ond wrth gyrraedd adref a gweld y ci’n diferu o waed, collodd Llywelyn ei dymer a’i ladd. Dim ond bryd hynny y clywodd lefain y babi a sylwi ar y blaidd yn gelain gerllaw. Sylweddolodd ei gamgymeriad dybryd. Claddodd y tywysog edifar y ci y tu allan i waliau’r castell, mewn llecyn cysgodol lle mae carreg goffa erbyn hyn. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig taith gerdded fer ar hyd Afon Glaslyn sy’n olrhain chwedl Gelert a’i heffaith ar arlunwyr fel JMW Turner a’r awdur teithio, Thomas Pennant.

    More BRWYDRAU AC ARFAU: I’R GAD locations