Yn Llantrisant ceir cerflun i’r Dr William Price (1800-1893) – un o’r cymeriadau mwyaf lliwgar, rhamantaidd a chwyldroadol yn hanes Cymru erioed. Roedd Price yn ysgolhaig heb ei ail, yn llawfeddyg rhagorol, yn radical ac yn arloeswr ym maes gofal iechyd, ac mae'n bosibl iawn ei fod wedi dylanwadu ar Aneurin Bevan pan aeth hwnnw ati i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol maes o law. Roedd ganddo ddiddordeb yng nghrefyddau’r dwyrain, yn llenyddiaeth ganoloesol Cymru, ym mytholeg Groeg ac mewn Eifftoleg; ar ben hyn oll roedd yn Siartydd gweithgar, yn ffeminydd, yn ddyngarwr ac yn frwd dros dderwyddiaeth newydd a hunaniaeth Frythonig Gymreig. Datblygodd Price ddefodau paganaidd, gan wisgo fel derwydd ac annerch cynulleidfaoedd wrth fynd ati i’w cynnal. Mae stori fer Dylan Thomas, The Baby Burning Case, wedi’i seilio ar yr achlysur pan amlosgodd Price ei fab bychan, a enwyd yn Iesu Grist, yn yr awyr agored ym 1884. Gadawodd capelwyr eu gwasanaeth un nos Sul i weld Price, a oedd yn 84 oed, wedi’i wisgo mewn mantell wen yn dawnsio o amgylch casged a losgai ar ben bryn Caeau’r Llan. Gallwch ddarganfod mwy am y stori ar droed trwy ddilyn y daith gerdded hardd yma neu’r llwybr clywedol yma.