Castell Dinefwr

YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI

... Ein hiaith a’n hunaniaeth
dinefwr-castle

Roedd Castell Dinefwr yn gadarnle i’r Deheubarth, teyrnas ganoloesol yn y de-orllewin. Dyma lys chwedlonol Hywel ap Cadell (c. OC 880-950), neu Hywel Dda, y gŵr cyntaf i roi trefn ar ein cyfreithiau traddodiadol a’u cyflwyno ar ffurf Cyfreithiau Hywel Dda. Y Tywysog Rhys ap Gruffydd (c. 1132-1197) a gododd rywfaint o’r castell. Mae’n fwy enwog am noddi Eisteddfod 1176 – yr Eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani. Cadw sy’n gofalu am y castell heddiw, er ei fod yn sefyll ar dir Parc Dinefwr sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma y mae cartref Gwartheg Gwynion y Parc. O Lyn y Fan Fach, meddai’r chwedl, y daeth y gwartheg hynafol hyn, ac ysbrydolwyd Gillian Clarke (g. 1937) i ysgrifennu cerdd amdanynt. Cyn gadael yr ardal, ewch heibio i siop Danteithion Wright’s yn Llanarthne, sy’n llawn dop o’r cynnyrch lleol gorau.

Castell Dinefwr

  • Roedd Castell Dinefwr yn gadarnle i’r Deheubarth, teyrnas ganoloesol yn y de-orllewin. Dyma lys chwedlonol Hywel ap Cadell (c. OC 880-950), neu Hywel Dda, y gŵr cyntaf i roi trefn ar ein cyfreithiau traddodiadol a’u cyflwyno ar ffurf Cyfreithiau Hywel Dda. Y Tywysog Rhys ap Gruffydd (c. 1132-1197) a gododd rywfaint o’r castell. Mae’n fwy enwog am noddi Eisteddfod 1176 – yr Eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani. Cadw sy’n gofalu am y castell heddiw, er ei fod yn sefyll ar dir Parc Dinefwr sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma y mae cartref Gwartheg Gwynion y Parc. O Lyn y Fan Fach, meddai’r chwedl, y daeth y gwartheg hynafol hyn, ac ysbrydolwyd Gillian Clarke (g. 1937) i ysgrifennu cerdd amdanynt. Cyn gadael yr ardal, ewch heibio i siop Danteithion Wright’s yn Llanarthne, sy’n llawn dop o’r cynnyrch lleol gorau.

    More YN GYMRAEG MAE’I MORIO HI locations