Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
cyfarthfa-castle-museum-art-gallery

Castell Cyfarthfa oedd cartref y Crawshays: perchnogion y busnes diwydiannol anferth yn y rhan hon o Gwm Taf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddai William Crawshay (1788-1867) yn trin ei weithwyr yn echrydus: yn gostwng cyflogau, yn anwybyddu peryglon ac yn diswyddo staff i bentyrru elw. Arweiniodd yr aflonyddwch a fudlosgai o dan y wyneb at Wrthryfel Merthyr ym 1831 ac at ferthyrdod Dic Penderyn (1808-1831). Dyma pryd y chwifiwyd y faner goch am y tro cyntaf erioed, baner a fabwysiadwyd wedyn yn symbol rhyngwladol dros hawliau gweithwyr. Ysbrydolodd y cyfan sawl awdur diweddarach gan gynnwys Harri Webb ac Alexander Cordell. Ceir casgliadau o’r cyfnod hwn yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, gan gynnwys rhai sy’n gysylltiedig â’r Fonesig Charlotte Guest (1812-1895) o Dŷ Dowlais gerllaw. Hi oedd y gyntaf i gyhoeddi cyfieithiad Saesneg o’r Mabinogi. Teithiwch ar Reilffordd Mynydd Brycheiniog o orsaf Pant i weld y creithiau diwydiannol, cyn i’r rheini ddiflannu maes o law wrth i Ben-y-Fan, copa uchaf y de, ddod i’r golwg.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa