Cwrt Plas yn Dre, Dolgellau

GWRTHRYFEL A REBELIAID

... Dihirod, terfysgwyr, taranwyr
cwrt-plas-yn-dre-dolgellau

Mae TH Roberts – haearnwerthwr yn oes Fictoria ond siop goffi bellach – yn sefyll ar safle Cwrt Plas yn Dre heddiw. Yn ôl y sôn, hen senedd-dy Owain Glyndŵr oedd yr adeilad yn y bymthegfed ganrif, a daeth yn gartref wedyn i'r Barwn Lewis ap Owen, Siryf Meirionnydd. Ym 1555, llofruddiwyd ap Owen gan Wylliaid Cochion Mawddwy, criw o ladron pen ffordd ac ysbeilwyr cochwallt sy’n amlwg iawn yn llên gwerin Cymru. Ceir straeon dirifedi amdanynt yn dwyn gwartheg ac eiddo yn y fro anghysbell hon, un a oedd yn ddigon afreolus ar y pryd. Nid peth anarferol yn yr ardal yw pobl sy’n mynd yn groes i’r graen: roedd gan y Crynwyr nifer o ddilynwyr yma, a hwy oedd ysbrydoliaeth Y Stafell Ddirgel, clasur o nofel Marion Eames (1921-2007). Mae modd dilyn Llwybr Taith y Crynwyr ac ymweld ag Amgueddfa’r Crynwyr yn Nolgellau.  

Llun o T.H. Roberts - hawlfraint Dave Croker / Geograph. Engrafiad o Gwrt Plas yn Dre – trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cwrt Plas yn Dre, Dolgellau

  • Mae TH Roberts – haearnwerthwr yn oes Fictoria ond siop goffi bellach – yn sefyll ar safle Cwrt Plas yn Dre heddiw. Yn ôl y sôn, hen senedd-dy Owain Glyndŵr oedd yr adeilad yn y bymthegfed ganrif, a daeth yn gartref wedyn i'r Barwn Lewis ap Owen, Siryf Meirionnydd. Ym 1555, llofruddiwyd ap Owen gan Wylliaid Cochion Mawddwy, criw o ladron pen ffordd ac ysbeilwyr cochwallt sy’n amlwg iawn yn llên gwerin Cymru. Ceir straeon dirifedi amdanynt yn dwyn gwartheg ac eiddo yn y fro anghysbell hon, un a oedd yn ddigon afreolus ar y pryd. Nid peth anarferol yn yr ardal yw pobl sy’n mynd yn groes i’r graen: roedd gan y Crynwyr nifer o ddilynwyr yma, a hwy oedd ysbrydoliaeth Y Stafell Ddirgel, clasur o nofel Marion Eames (1921-2007). Mae modd dilyn Llwybr Taith y Crynwyr ac ymweld ag Amgueddfa’r Crynwyr yn Nolgellau.  

    Llun o T.H. Roberts - hawlfraint Dave Croker / Geograph. Engrafiad o Gwrt Plas yn Dre – trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    More GWRTHRYFEL A REBELIAID locations