Cwm yr Eglwys

O DDIFEROL DDIFYRRWCH

...Rhaeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau
cwm-yr-eglwys

Mae pentref pysgota bychan Cwm yr Eglwys wedi gorfod ymdopi ers canrifoedd â ffyrnigrwydd Môr Iwerddon. Saif ar ochr ddwyreiniol Ynys Dinas, sy’n gael ei galw’n ynys gan fod nant rhyngddi hi a’r tir mawr. Difrodwyd Eglwys Brynach o’r ddeuddegfed ganrif gan storm enbyd ym 1859, a dim ond rhan o’r clochdy a’r mur dwyreiniol sydd ar ôl bellach, yn bwrw trem dros erchwyn y traeth. Dywedir bod twneli ac ogofâu cudd y smyglwyr i'w cael rif y gwlith yn y clogwyni cyfagos, er mor anodd eu cyrraedd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am y lle erbyn hyn, ac mae llwybr tarmac sy’n addas i bramiau a chadeiriau olwyn yn arwain at gildraeth arall – Pwllgwaelod. Gallwch ddychwelyd yn syth i Gwm yr Eglwys, neu ddringo Pen y Fan i weld rhai o’r golygfeydd gorau o arfordir Penfro.

Llun o Ynys Dinas - hawlfraint Joe Cornish / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Cwm yr Eglwys

  • Mae pentref pysgota bychan Cwm yr Eglwys wedi gorfod ymdopi ers canrifoedd â ffyrnigrwydd Môr Iwerddon. Saif ar ochr ddwyreiniol Ynys Dinas, sy’n gael ei galw’n ynys gan fod nant rhyngddi hi a’r tir mawr. Difrodwyd Eglwys Brynach o’r ddeuddegfed ganrif gan storm enbyd ym 1859, a dim ond rhan o’r clochdy a’r mur dwyreiniol sydd ar ôl bellach, yn bwrw trem dros erchwyn y traeth. Dywedir bod twneli ac ogofâu cudd y smyglwyr i'w cael rif y gwlith yn y clogwyni cyfagos, er mor anodd eu cyrraedd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am y lle erbyn hyn, ac mae llwybr tarmac sy’n addas i bramiau a chadeiriau olwyn yn arwain at gildraeth arall – Pwllgwaelod. Gallwch ddychwelyd yn syth i Gwm yr Eglwys, neu ddringo Pen y Fan i weld rhai o’r golygfeydd gorau o arfordir Penfro.

    Llun o Ynys Dinas - hawlfraint Joe Cornish / Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

    More O DDIFEROL DDIFYRRWCH locations